Talu am eich Cartref

Rŵan fod gennych gartref gyda Thai Gogledd Cymru, mae'n bwysig eich bod yn cadw i fyny gyda'ch taliadau rhent. Mae ein Tîm Incwm yma i wneud yn siŵr fod ein tenantiaid yn talu eu rhent mewn pryd a rhoi help a chefnogaeth i bobl sydd mewn trafferthion ariannol, neu gall eich helpu i reoli eich arian.

Mae yna lawer o ffyrdd o dalu eich rhent, yn cynnwys Debyd Uniongyrchol, cerdyn talu Allpay a'r wefan, i enwi dim ond rhai - cliciwch ar y cyswllt uchod am fwy o fanylion.

Efallai y bydd gennych hawl i gael help i dalu eich rhent. Cysylltwch â'ch Swyddog Rheoli Rhent i drafod hyn. Gall ddweud wrthych a yw'n debygol fod gennych hawl i fudd-daliadau a'ch helpu i lenwi ffurflen gais Budd-dal Tai. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni os ydych yn cael trafferthion ariannol neu'n cael anhawster i dalu. Gall y Tîm Incwm wneud llawer o bethau i'ch helpu, cyn i'r sefyllfa waethygu.

Tai Gogledd Cymru yn gwella cyfathrebu gyda'i thenantiaid a thrigolion. Bydd y Tîm Incwm yn cael ei gysylltu â chi yn ystod y nos ac ar benwythnosau i drafod unrhyw ymholiadau sydd gennych talu eich rhent a chynnig cyfle i chi dalu dros y ffôn. Darllenwch y llythyr hwn gan y Tîm Incwm am fwy o wybodaeth.

Gellir cysylltu â'r Tîm Incwm yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun - dydd Gwener 9am - 5pm) drwy ffonio 01492 572727 neu drwy ddefnyddio rhifau uniongyrchol y Swyddogion Rheoli Rhent.

Got any feedback?

We love to hear your feedback, so feel free to tell us!

Click here to leave feedback