Sut i Dalu eich Rhent

Mae yna lawer o ffyrdd o dalu eich rhent, ac islaw caiff y rhai mwyaf cyffredin eu rhestru:

  • Debyd Uniongyrchol - gallwch dalu bob wythnos, bob pythefnos, bob mis neu bob 4 wythnos. Mae'n debyg mai dyma'r ffordd hawsaf o dalu. Fe anfonwn ffurflen atoch, anfonwch hi'n ôl ac fe wnawn ni'r gweddill.
  • Cerdyn talu Allpay - i dalu mewn unrhyw swyddfa bost, siopau Paypoint e.e. Londis, Spar, garejys ac ati.
  • Trwy ddefnyddio eich cerdyn talu dros y ffôn, ffoniwch 0870 770 0472 a defnyddio eich cerdyn debyd/credyd.
  • Dros y ffôn neu drwy ymweld â Swyddfa Bangor 01248 370 227 neu alw i mewn a thalu gydag arian parod/siec neu ddefnyddio eich cerdyn debyd/credyd.
  • Yn bersonol neu drwy anfon siec i'n swyddfeydd ym Mhlas Blodwel -dylid gwneud sieciau'n daladwy i Gymdeithas Tai Gogledd Cymru Cyfyngedig.
  • Y Rhyngrwyd - ar ein gwefan www.nwha.org.uk a chlicio ar Allpay www.allpayments.net
  • Budd-dal Tai (cysylltwch â'ch Swyddog Rheoli Rhent am fwy o fanylion neu gymorth i lenwi ffurflen neu drwy gysylltu â'ch awdurdod lleol).
  • Os ydych yn derbyn rhai budd-daliadau ac ar ei hôl hi gyda'ch rhent gallwch ofyn i'r Ganolfan Byd Gwaith dalu didyniadau trydydd parti yn syth i ni.

Cysylltwch â'r Tîm Rheoli Rhent i drafod y dewis gorau i chi.

Os cewch unrhyw drafferth gyda'ch incwm a/neu dalu eich rhent dylech gysylltu â ni ar frys gan ein bod yn awyddus i helpu mewn amryw o ffyrdd.

Direct Debit

Use Direct Debit for your payments