Cysyniad Newydd ar Gyfer Tai I Boble Hyn
Llys y Coed yw’r Cynllun GofalYchwanegol cyntaf yng Nghonwy ac mae’n ddatblygiad partneriaeth
rhwngTai Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Dyma gyfle gwych i fanteisio ar ffordd
o fyw annibynnol a diogel, gyda gofal a chefnogaeth y tu ôl i chi sy’n hyblyg ac wedi’i addasu ar gyfer eich anghenion.
Gofal Ychwanegol
Efallai maiTai Gofal Ychwanegol yw’r allwedd i fyw’n annibynnol gyda gofal. Mae’n addas i chi os ydych dros 65 ac yn awyddus i barhau i fyw’n annibynnol.
Rydym yn croesawu preswylwyr gydag amrywiaeth o anghenion, o’r rheiny sydd angen ychydig bach mwy oddiogelwch, tawelwch meddwl, help neu ofal, i’r rheiny sy’n fregus iawn ac yn debyg o fanteisio’n llawn ar yrholl wasanaethau sydd gennym i’w cynnig.
Cewch eich cefnogi mewn ffordd sy’n eich galluogi i aros yn annibynnol am fwy o amser. Gallwch symud i mewn ar eich pen eich hun neu gyda’ch partner, a bydd gennych eich fflat eich hun.
Bydd yno ystafell i westeion fel y gall eich teulu a’ch ffrindiau ymweld â chi. Eich cartref chi ydyw, yn y pen draw, ac rydych yn dal i reoli eich arian, eich preifatrwydd, strwythur eich diwrnod, yn fyr… popeth sy’n werthfawr i chi. Dim ond rhoi Gofal Ychwanegol i’ch helpu i wneud hynny yw ein pwrpas ni.
Fflatiau Safonol, Wedi'u Cynllunio'n Dda
Cynlluniwyd ein datblygiad fel y gallwch barhau i fyw’n annibynnol yn eich cartref eich hun, ac i wneud bywyd yn haws. Mae ein cyfleusterau, sydd wedi’u hadeiladu i ddyluniad cyfoes o ansawdd eithriadol a safonau cynaliadwyedd uchel, yn cynnig:
• 46 fflat hunangynhaliol (fflatiau 1 a 2 ystafell wely ar gael)
• Tawelwch meddwl, diogelwch a sicrwydd
• Annibyniaeth a phreifatrwydd
• Gofal a chefnogaeth ar gael 24 awr y dydd
• Ystafell ymolchi en suite gyda chawod camu i mewn
• Amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol
• Lifft
• Hygyrch i gadeiriau olwyn
• System mynediad drws
• Gwres canolog
|
Lleoliad Hyfryd Mae Llys y Coed wedi’i leoli mewn llannerch goediog ddeniadol yn nhref glan-y-môr tawel Llanfairfechan. Saif rhwng Conwy a Bangor ar Draffordd yr A55, ar y brif linell rheilffordd rhwng Llundain a Chaergybi, mewn ardal o harddwch eithriadol, gan gynnig y gorau o ran hygyrchedd a heddwch. Mae yna ddetholiad o siopau a gwasanaethau yn y dref draddodiadol a chroesawus, ac mae’n cynnwys nodweddion pensaernïol diddorol a golygfeydd godidog. |
|
|
Gofal a Chefnogaeth Mae Gofal Ychwanegol yn cynnig hyblygrwydd llwyr o ran y gofal a gynigiwn. Mae’r gofal wedi’i deilwra i’ch anghenion penodol chi, ac yna gwneir trefniadau i sicrhau eich bod yn derbyn yr union wasanaethau y mae arnoch eu hangen. Felly chi sydd wrth wraidd pethau bob amser. Rydym yn annog preswylwyr i fyw bywyd llawn a phrysur a chaiff cynllun gofal a chefnogaeth personol ei deilwra i’ch helpu i fyw mor annibynnol â phosibl, yn y ffordd rydych chi’n dewis byw. Mae’r tîm gofal profiadol ar y safle 24 awr y dydd ac yn darparu gofal o safon uchel i bobl sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain, gan hybu byw’n annibynnol ar yr un pryd, a pharchu eich preifatrwydd, eich urddas a’ch dewis. Mae cyswllt larwm cymunedol gyda chefnogaeth 24 awr y dydd ar gael hefyd. |
|
|
Ffordd o Fyw Ar ôl cwblhau Cam II ein prosiect adeiladu Llys y Coed tua diwedd haf 2010 bydd amrywiaeth llawn o gyfleusterau cymunedol rhagorol ar gael, yn cynnwys: • Bwyty • Ystafell hobïau • Lolfeydd cymunedol • Gardd gaeedig • Siop trin gwallt • Ystafell golchi dillad • Ystafelloedd i westeion • Storfa sgwteri • Ystafelloedd ymolchi â chymorth • Ystafell ymolchi maldod Ceir gwir synnwyr o gymuned yn y datblygiad moethus hyfryd yma, sy’n amgylchedd gwych i wneud ffrindiau newydd, croesawu eich teulu a’ch ffrindiau, neu ddim ond ymlacio a mwynhau’r hyn sydd o’ch cwmpas. |
|
|
Costau Mae gwybodaeth fanwl am gostau ar gael ar wahân. Mae costTai GofalYchwanegol yn cynnwys tair elfen sylfaenol, fodd bynnag: • Cost rhentu neu brynu eich cartref eich hun • Y taliadau gwasanaeth sy’n gysylltiedig â’ch cartref, ar gyfer cynnal a chadw ac unrhyw gyfleusterau cymunedol • Cost y gwasanaethau gofal a chefnogaeth a dderbyniwch Bydd y swm rydych yn ei dalu’n amrywio yn ôl eich sefyllfa unigol a’ch incwm. Efallai y bydd rhaid i chi dalu’r costau i gyd neu efallai y bydd gennych hawl i fudd-daliadau. Gallwn roi cyngor pellach ynglŷn â hyn i chi. Tai Gogledd Cymru FfurfiwydTai Gogledd Cymru ym 1974, ac mae wedi ymrwymo i wella bywydau pobl mewn angen ar draws Gogledd Cymru. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cartrefi y mae pobl wrth eu bodd yn byw ynddyn nhw, a chefnogi cymunedau y mae pobl wrth eu bodd yn bod yn rhan ohonyn nhw. Felly pan fyddwch yn prynu neu’n rhentu tŷ gennym gallwch fod yn siŵr y byddwn yn gwrando ac yn ymateb i’ch anghenion, yn eich trin yn agored, yn deg, yn onest a chyda parch, ac yn bwysicaf oll… bob amser yn eich trin fel unigolyn. |
|
|
Manylion Cyswllt Os ydych yn meddwl y byddaiTai Gofal Ychwanegol yn eich helpu i fwynhau bywyd yn well, gallwch gael mwy o wybodaeth drwy gysylltu ag Eirlys Parry, sef Rheolwr Strategaeth a Gwasanaethau Pobl HŷnTai Gogledd Cymru. Gallwch ei ffonio ar 01492 563289 neu anfon e-bost at: Tai Gogledd Cymru, Plas Blodwel, Broad Street, Cyffordd Llandudno, LL31 9HL. |
Got any feedback?

We love to hear your feedback, so feel free to tell us!


