Gweithio mewn Partneriaeth
Mae Tai Gogledd Cymru wedi datblygu trefniadau gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau er budd defnyddwyr gwasanaeth ers dros ugain mlynedd. Mae'r dull cydweithredol hwn o weithredu wedi ein galluogi i gynnig gwasanaethau llety a chefnogaeth o'r safon uchaf i'n defnyddwyr gwasanaeth.
Ar hyn o bryd, mae gan Tai â Chefnogaeth Tai Gogledd Cymru dros ddeugain prosiect partneriaeth gydag asiantaethau ar draws Gogledd Cymru, ble rydym ni'n darparu'r gwasanaethau llety a landlord, a'r asiantaeth partneriaeth yn darparu'r gofal a'r gefnogaeth i ddefnyddwyr.
Cartrefi a rennir gyda defnyddwyr eraill yw'r prosiectau, gyda gweithwyr cefnogaeth yn helpu gyda byw bob dydd. Mae gan lawer o'r defnyddwyr gwasanaeth anghenion cefnogaeth cymhleth fel problemau iechyd meddwl, anawsterau dysgu neu anawsterau corfforol. Caiff y prosiectau eu cynllunio'n unigol i gwrdd ag anghenion defnyddwyr gwasanaeth a gwneir yr addasiadau angenrheidiol i'r eiddo er mwyn i bobl gael y budd mwyaf posib o'u cartrefi.
Ar hyn o bryd mae Tai Gogledd Cymru'n gweithio gyda nifer o asiantaethau partner ar draws Gogledd Cymru, gan gynnwys:
- Gwasanaethau Cymdeithasol
- NACRO (Gofal ac Adsefydlu Troseddwyr yn Genedlaethol)
- Asiantaeth Alcohol a Chyffuriau CAIS
- Cymorth i Fenywod
- Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid .
Os bydd arnoch eisiau gwybodaeth bellach am waith partneriaethau asiantaeth neu am ddatblygu partneriaethau, cysylltwch ag
Ian Lewney
Rheolwr Perfformiad ac Ansawdd
01492 563298
ian.lewney@nwha.org.uk
Got any feedback?

We love to hear your feedback, so feel free to tell us!


