North Wales Housing (NWH) is committed to dealing effectively with any concerns or complaints you may have about our service. We aim to clarify any issues about which you are not sure.
If possible, we’ll put right any mistakes we may have made. We will provide any service you’re entitled to which we have failed to deliver. If we got something wrong, we’ll apologise and where possible we’ll try to put things right. We also aim to learn from our mistakes and use the information we gain to improve our services. Our procedure is based on the guidance given to public bodies by the Complaints Standards Authority.
What is classed as a complaint?
A complaint is:
- An expression of dissatisfaction or concern
- Written or spoken or made by any other communication method
- Made by one or more members of the public (someone or a group in receipt of or denied a service to which they are entitled by NWH)
- About NWH’s action or lack of action or the standard of service provided
- Something which requires a response
What is not covered by our complaints procedure?
- An initial request for a service, such as reporting a repair
- An appeal against a ‘properly made’ decision
- Issues regarding anti-social behaviour
How to make a complaint?
A complaint may be made by letter, email, verbally in person, or verbally over the phone. A complaint should be made within 6 months of the relevant occurrence. However, there can be exceptions to this if there is a good reason. You may ask an advocate to act on your behalf providing we have written consent from you, or the parties involved, or where there are documents that allow advocates to act on behalf of an individual who lacks capacity (as defined by the Mental Capacity Act 2005).
Email: [email protected]
Phone: 01492 572727
Letter: North Wales Housing, Plas Blodwel, Broad Street, Llandudno Junction, Conwy, LL31 9HL
Mae Tai Gogledd Cymru (TGC) wedi ymrwymo i ymdrin yn effeithiol ag unrhyw bryderon neu gwynion sydd gennych am ein gwasanaeth. Ein nod yw egluro unrhyw faterion nad ydych yn sicr yn eu cylch.
Os yn bosibl, byddwn yn unioni unrhyw gamgymeriadau y gallem fod wedi’u gwneud. Byddwn yn darparu unrhyw wasanaeth y mae gennych hawl iddo ac rydym wedi methu â’i ddarparu. Os ydym wedi cael rhywbeth yn anghywir, byddwn yn ymddiheuro a lle bo’n bosibl byddwn yn ceisio unioni pethau. Rydym hefyd yn anelu at ddysgu o’n camgymeriadau a defnyddio’r wybodaeth a gawn i wella ein gwasanaethau. Mae ein trefn gwyno yn seiliedig ar y canllawiau a roddir i gyrff cyhoeddus gan yr Awdurdod Safonau Cwynion.
Beth yw Cwyn?
Mae Cwyn yn:
- Fynegiant o anfodlonrwydd neu bryder
- Wedi’i ysgrifennu neu ar lafar neu wedi’i wneud trwy unrhyw ddull cyfathrebu arall
- Wedi’i wneud gan un neu fwy o aelodau’r cyhoedd (rhywun neu grŵp sy’n derbyn neu wedi cael gwrthod gwasanaeth y mae ganddynt hawl iddo gan TGC)
- Ymwneud â gweithred neu ddiffyg gweithredu TGC neu safon y gwasanaeth a ddarperir
- Rhywbeth sydd angen ymateb
Nid yw cwyn yn golygu:
- Cais cychwynnol am wasanaeth, fel rhoi gwybod am waith trwsio
- Apêl yn erbyn penderfyniad ‘a wnaed yn briodol’
- Mater yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
Sut i wneud cwyn?
Gellir gwneud cwyn trwy lythyr, e-bost, ar lafar yn bersonol, neu ar lafar dros y ffôn. Dylid gwneud cwyn o fewn 6 mis i’r digwyddiad perthnasol. Fodd bynnag, gall fod eithriadau i hyn os oes rheswm da. Gallwch ofyn i eiriolwr weithredu ar eich rhan ar yr amod ein bod wedi cael caniatâd ysgrifenedig gennych chi neu’r partïon dan sylw, neu lle mae dogfennau sy’n caniatáu i eiriolwyr weithredu ar ran unigolyn sydd heb alluedd (fel y’i diffinnir gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005).
E-bost: [email protected]
Ffôn: 01492 572727
Llythr: Tai Gogledd Cymru, Plas Blodwel, Broad Street, Cyffordd Llandudno, Conwy, LL31 9HL