Gweithio yn y Gymdogaeth: Siarter Tai y Sefydliad Tai Siartredig

Mae Tai Gogledd Cymru wedi cyflawni Achrediad Cymdogaethau newydd y Sefydliad Tai Siartredig (CIH).

Fel un o ddim ond 10 o gymdeithasau tai eraill sy’n rhan o’r prosiect, roedd Tai Gogledd Cymru ar flaen y gad wrth gymryd rhan mewn prosiect i arwain y sector i wella gweithio yn y gymdogaeth wedi’i hwyluso gan ymgynghoriaeth y Sefydliad Tai Siartredig.

Mae’r achrediad yn arddangos ymrwymiad Tai Gogledd Cymru i’r lefelau uchaf o wasanaeth ac arfer gorau. Mae’r Siarter newydd yn rhoi sylw i effeithiolrwydd darparwyr wrth ganolbwyntio eu hadnoddau i gyflenwi’r cymysgedd gorau posibl o wasanaethau tai, cymdogaethau ac asedau ar gyfer pob ardal.