Datganiad preifatrwydd cyfathrebu marchnata

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi; rhoi’r cyfle i chi ‘optio allan’

Annwyl NAME,

Mae Tai Gogledd Cymru (TGC) wedi ymrwymo i wella ein gwasanaethau a chyflawni ein gweledigaeth o wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Rydym am ddarparu cartrefi i fod yn falch ohonynt a chreu cymunedau y gallant ffynnu ynddynt.

Mae Tai Gogledd Cymru wedi adolygu ein cyfathrebu yn ddiweddar a hoffem anfon negeseuon atoch ynghylch y canlynol:

  • Cyfleoedd yn TGC, gan gynnwys ymgysylltu â thenantiaid, hyfforddiant a digwyddiadau
  •  Swyddi, gyrfaoedd, gwirfoddoli a chyfleoedd profiad gwaith
  • Gwybodaeth ychwanegol gan gynnwys iechyd a lles
  • Rhoi gwybod i chi beth sy’n digwydd yn TGC e.e. derbyn ein cylchlythyr tenantiaid Clwb Seren.

Rydym yn ystyried bod anfon Cyfathrebiadau Marchnata atoch drwy e-bost a neges destun i fod o fewn ein buddiannau cyfreithlon. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw pawb am i ni gysylltu â nhw fel hyn. Os nad ydych am i ni gysylltu â chi fel hyn atebwch eich neges wreiddiol gyda’r geiriau ‘OPTIO ALLAN’

Nid oes unrhyw fwriad i farchnata cynnyrch neu wasanaethau trydydd parti i chi. Bydd unrhyw beth a hyrwyddir yn rhad ac am ddim ac wedi’i nodi’n glir er budd cymdeithasol neu hyrwyddo lles.

Mae TGC am roi cyfleoedd i chi gael mewnbwn a bod yn rhan o’r sefydliad, gan helpu i wella a hyrwyddo cymunedau i ffynnu. Gallwch fod â buddsoddiad yn y busnes a helpu i lywio ei ddatblygiad a’i dwf. Gyda’n gilydd gallwn greu cyfleoedd sefydlog ar gyfer twf, adeiladu mwy o wytnwch ac ehangu’r budd cymdeithasol.

I gael mwy o wybodaeth am sut y mae Tai Gogledd Cymru yn prosesu eich data personol, ewch i’n tudalen Diogelu Data yma https://www.nwha.org.uk/cy/amdanom-ni/diogelu-data/.