Panel Tenantiaid a Chymunedau

Mae’r Panel yn cynnwys aelodau’r Bwrdd, tenantiaid a staff, ac mae’n cyfarfod bob dau fis (ar-lein ar hyn o bryd). Mae gan y Panel y cyfrifoldeb am graffu ar ein gwasanaethau a’n perfformiad i sicrhau bod yr holl breswylwyr yn derbyn y safonau gwasanaeth uchaf posibl.

Rhoddir cefnogaeth a hyfforddiant llawn i aelodau newydd.

Beth yw barn aelodau’r Panel

“Rwy’n teimlo ei bod yn bwysig y dylai tenantiaid fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau a allai effeithio ar eu bywydau nhw a bywyd tenantiaid eraill. Rwy’n gobeithio bod fy ymdrechion yn cael effaith gadarnhaol ar ran tenantiaid.”

Alan

“Dechreuais wirfoddoli efo Tai Gogledd Cymru yn ôl yn 2009. Mae wedi bod yn llawer o hwyl, ac yn ddiddorol iawn, i mi fod yn rhan o wneud penderfyniadau, ac mae gen i ddylanwad dros lawer o bethau sy’n effeithio arnaf i yn uniongyrchol, yn fy nghartref lle’r wyf yn byw.

Hefyd, mae Tai Gogledd Cymru wir yn gwerthfawrogi fy adborth a’m barn ar faterion sy’n effeithio arnaf i, a sut rwy’n byw yn fy nghartref. Peidiwch ag oedi cyn cymryd rhan, mae mor werth chweil!”

Carol

Sut i ymuno

Os hoffech chi gofrestru eich diddordeb neu ddysgu mwy am y Fforwm Tenantiaid a’r Panel Tenantiaid a Chymunedau, cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 563232 neu [email protected]