Cefnogi Pobl
Sicrhau Cyllid
Llety 'symud ymlaen' newydd i hostel
Ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth
Dangos gwasanaethau
Cefnogi Pobl
Mae Tai Gogledd Cymru yn ddarparwr tai a sefydlwyd i ddarparu cefnogaeth yng ngogledd Cymru, ac mae'n darparu cartrefi a gwasanaethau i ddefnyddwyr gwasanaethau bregus ers dros ugain mlynedd.
Mae dros 300 o bobl fregus wedi cael cefnogaeth, ac wedi gallu newid eu bywydau er gwell. Mae'r rhain yn cynnwys pobl a oedd yn ddigartref, pobl sydd â phroblemau cyffuriau ac alcohol, problemau iechyd meddwl, cyn-droseddwyr, pobl ag anableddau dysgu neu bobl ifanc sy'n gadael gofal.
Symudwyd 65 o bobl ymlaen at lety anghenion cyffredinol yn llwyddiannus yn ystod 6 mis olaf 2015/16.
Llety 'symud ymlaen' newydd i hostel
Mae deg llety 'symud ymlaen' o safon uchel yr oedd wir eu hangen wedi eu creu ym Mhlas Llewelyn ar gyfer yr hostel i bobl ddigartref, Noddfa, ym Mae Colwyn.
Sicrhau Cyllid ar gyfer 'Cefnogi Pobl'
Diolch i ymgyrch 'Parhau i Gefnogi Pobl' a gynhaliwyd gan Tai Cymunedol Cymru a Chymorth Cymru: Cefnogi Pobl, sicrhawyd cyllid ar gyfer 2016/17 heb ddim toriadau i grantiau. Mae'r Grant Digartrefedd hefyd wedi ei adnewyddu ar gyfer 2016/17 gyda thoriadau o 2.4% yn unig.
Dangos gwasanaethau i bartneriaid
Mae cydweithio â'n partneriaid yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac ystyrir unrhyw gyfleoedd pellach ar gyfe rcydweithio drwy'r Pwyllgor Cydweithio Rhanbarthol a Fforymau a Rhwydweithiau Cefnogi Pobl.
Mae dau ddigwyddiad Arddangos Cartref â Chefnogaeth ranbarthol a drefnwyd ar hyd y flwyddyn wedi helpu tynnu sylw partneriaid at y gwasanaethau a'r gefnogaeth a ddarperir i denantiaid, ac wedi gwella cyd-weithio rhwng partneriaid.
Ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth
Mae ymgysylltu yn rhan allweddol o baratoi preswylwyr mewn cartrefi â chefnogaeth i fyw yn annibynnol a symud ymlaen yn llwyddiannus.
Cynhaliwyd nifer o weithgareddau ymgysylltu dros y flwyddyn sydd wedi helpu meithrin sgiliau unigolion yn ogystal â magu eu hyder. Mae hyn yn cynnwys gweithdai celf, sesiynau cerddoriaeth anffurfiol yn ogystal â gweithgareddau awyr agored megis dringo tu mewn. Anogir bwyta'n iach drwy dyfu a choginio bwyd maethlon.
Mae nifer o ddefnyddwyr y gwasanaeth hefyd wedi cael mynediad at gyrsiau coleg a dechreuwyd sesiynau gydag ymgynghorydd addysg, sydd yn magu eu hyder yn ogystal â gwella eu cyflogadwyedd.
- Cefnogi Pobl
- Llety 'symud ymlaen' newydd i hostel
- Sicrhau Cyllid ar gyfer 'Cefnogi Pobl'
- Dangos gwasanaethau i bartneriaid
- Ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth
Sôn am Adfywio
Partneriaeth yn creu cartrefi newydd ar Ynys Môn
Cartrefi newydd yn rhoi dyfodol newydd i bobl leol Y Rhyl
Datblygiad Ffordd Whitegate yn nodi ehangu i Wrecsam
Mae Maria Dawson un o'r tenantiaid newydd wrth ei bodd
Sôn am Adfywio
Mae twf a datblygiad yn hynod o bwysig i ni ac mae ein Tîm Adfywio mewnol yn adeiladu datblygiadau sydd wedi ennill gwobrau a chodi cartrefi newydd ar draws Gogledd Cymru yn barhaus.
Cafodd ugain o gartrefi newydd eu creu gan y Tîm Adfywio yn 2015 - 2016, oedd yn amrywio o adeiladau newydd i adeiladau a gafodd eu hadnewyddu.
Partneriaeth yn creu cartrefi newydd ar Ynys Môn
Mae pump o denantiaid yn elwa o gartrefi newydd sbon i'w rhentu diolch i bartneriaeth gyda Chymdeithas Tai Gogledd Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn ym mhrosiect Rhes Capel yng Nghaergybi.
Darllen Stori
Cartrefi newydd yn rhoi dyfodol newydd i bobl leol Y Rhyl
Mae chwech o drigolion lleol wedi elwa o gartrefi newydd sydd wedi cael eu hailddatblygu i'w rhentu diolch i bartneriaeth rhwng Tai Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Gorllewin y Rhyl. Cafodd yr eiddo ar John Street yng Ngorllewin y Rhyl, a fu cyn hyn yn cartrefu tua 12 o fflatiau un ystafell, eu trawsnewid i 6 o fflatiau ansawdd uchel, sy'n defnyddio ynni'n effeithlon ac sydd hefyd yn fflatiau fforddiadwy.
Mae'r fflatiau yn agos at fan gwyrdd cymunedol newydd Gerddi Heulwen, ac wedi'u lleoli yng nghanol ardal adfywio strategol Llywodraeth Cymru a'r eiddo yma cyntaf i'w ddwyn yn ôl i ddefnydd yn dilyn rhaglen gwaith adfywio.
Mae Maria Dawson un o'r tenantiaid newydd wrth ei bodd:
"Rydw i mor hapus oherwydd byddaf yn cael cymaint o fudd o'r fflat hardd yma. Rwy'n dioddef o arthritis difrifol ac roeddwn yn byw mewn fflat ar y trydydd llawr cyn hyn, felly mae pethau'n bendant yn mynd i fod yn llawer gwell ac yn haws i mi rŵan. Mae gen i fynediad hefyd i ardal gardd sydd yn mynd i fod yn hyfryd pan fyddaf yn sâl ac eisiau mymryn o awyr iach. Rwyf mor ddiolchgar."
Darllen Stori
Mae gwaith yn parhau ar fenter gyffrous arall yn y Rhyl, sef datblygiad Afallon yn Stryd yr Abaty, Y Rhyl. Mae'r datblygiad gan Fenter Tai Cydweithredol Gorllewin y Rhyl mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Gorllewin y Rhyl. Mae gwaith wedi symud ymlaen ar y safle ac mae'r tenantiaid newydd wedi cael eu dewis ac wedi dechrau eu hyfforddiant i ddod yn aelodau cydweithredol.
Datblygiad Ffordd Whitegate yn nodi ehangu i Wrecsam
Mentrodd Tai Gogledd Cymru i dir newydd yn 2016 – 2016, gan ddatblygu yn Wrecsam mewn partneriaeth â Chyngor Wrecsam. Dechreuodd y gwaith yn Ffordd Whitegate, Wrecsam a bydd yn cyflenwi 12 o gartrefi ar rent ym mis Mehefin 2016.
Darllen Stori
Yr enillwyr yw...
Cafodd Tai Gogledd Cymru noson lwyddiannus yng Ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC) 2015.
- Enillodd Cae Garnedd, Bangor wobr sir a rhanbarth Gwynedd am y 'Prosiect Dylunio Cynhwysol Gorau'
- Enillodd Hafod y Parc, Abergele y wobr am 'Tai Cymdeithasol/Fforddiadwy Gorau' ar gyfer rhanbarth Conwy.
- Cipiodd Tai Gogledd Cymru a Pure Residential hefyd y wobr 'Tai Cymdeithasol/Fforddiadwy' ar gyfer Sir Ddinbych am y gwaith diweddar a wnaed yn adnewyddu Plas Penyddeuglawdd, Ffordd Pendyffryn, Y Rhyl, sef un i'r tai hynaf yn Y Rhyl.
Cafodd Ffordd Pendyffryn hefyd ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau “adfywio wedi'i arwain gan Tai” yng Ngwobrau Tai CIH Cymru 2015 gan fod ar restr fer y rownd derfynol ac ennill canmoliaeth yng Ngwobr Cynllunio RTPI Cymru 2015:
"Mae'r prosiect hwn yn arddangos gwelliant sylweddol yn yr amgylchedd ffisegol gan droi adeilad oedd yn ddolur i'r llygad ers tro yn gyfraniad cadarnhaol i olygfa'r stryd sy'n helpu i amlygu hanes yr ardal ac atgyfnerthu arbenigrwydd lleol. Mae hyn wedi arwain at ddefnydd cynhyrchiol o adeilad rhestredig a oedd gynt yn adfeiliedig (yr hynaf yn Y Rhyl) sy'n diwallu anghenion lleol am dai fforddiadwy ac arbenigol gan hyrwyddo ymdeimlad o falchder dinesig."
Darllen Stori
- Sôn am Adfywio
- Partneriaeth yn creu cartrefi newydd ar Ynys Môn
- Cartrefi newydd yn rhoi dyfodol newydd i bobl leol Y Rhyl
- Mae Maria Dawson un o'r tenantiaid newydd wrth ei bodd
- Datblygiad Ffordd Whitegate yn nodi ehangu i Wrecsam
- Yr enillwyr yw...
Mannau gwell i fyw
Wardeiniaid Ynni'n arbed arian i denantiaid
Cynnal Tenantiaeth
A ddylai cartref iawn ddim bod y peth lleiaf i'w ddisgwyl ar gyfer ein pobl hŷn yma yng Nghymru?
Cynnal ein cartrefi
Mannau gwell i fyw
Mae Tai Gogledd Cymru yn ymroddedig i ddarparu lleoedd gwell i fyw ar gyfer ein tenantiaid. Gall hyn fod drwy wella'r amgylchedd y maent yn byw ynddo, y gymuned o'u cwmpas neu drwy ddarparu gwasanaethau cymorth sy'n anelu at wella eu bywydau.
Cynaliadwyedd
Ym mhob agwedd o'n busnes, byddwn yn ceisio ateb anghenion y presennol heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau yn y dyfodol i ateb eu hanghenion eu hunain.
Mae Tai Gogledd Cymru wedi ennill cydnabyddiaeth am hyn trwy gael gwobr arian SHIFT ('Sustainable Homes Index for Tomorrow') am ba mor gynaliadwy yw eu cartrefi. Mae hwn yn gynllun meincnodi sy'n cael ei gefnogi gan y llywodraeth ac sy'n dadansoddi perfformiad amgylcheddol cymdeithasau tai.
Mae gennym Swyddog Cynaliadwyedd wedi'i ddynodi ar gyfer hyn, yn gweithio ar draws y sefydliad. Hefyd mae Strategaeth Cynaliadwyedd yn cael ei chynhyrchu i sicrhau ein bod ni'n gwbl ymwybodol o'r ffordd mae ein gweithredoedd ni'n effeithio ar ein cymunedau ac ar y byd ehangach, rŵan ac i'r dyfodol.
Mae cryn dipyn o waith yn mynd ymlaen ar draws y sefydliad, er mwyn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd:
- Insiwleiddio waliau allanol ar yr eiddo sydd gennym ni'n barod
- Newid o wresogi gyda thrydan i ddefnyddio nwy, er mwyn cael gwelliant sylweddol mewn effeithiolrwydd ynni a gostwng biliau i'r tenantiaid.
- Cafodd paneli haul PV eu gosod er mwyn cael pŵer o'r haul i 48 o dai sydd wedi'u hadeiladu o'r newydd.
- Gosod goleuadau LED yn yr holl fannau cymunedol, a boeleri sy'n effeithlon gydag ynni mewn cartrefi a swyddfeydd.
- Gosod y dewis sy'n effeithiol gydag ynni wrth roi pethau newydd yn lle hen, e.e. bath sy'n arbed dŵr, toiledau fflysio deuol, goleuo sy'n arbed ynni, ffenestri gwydr dwbl, insiwleiddio waliau allanol.
- Rydym wedi dechrau adolygu'r defnydd o ynni a materion perthnasol yn y tri Chynllun Gofal Ychwanegol.
- Gweithio'n agos gydag Adnoddau Naturiol Cymru ar gynlluniau i gael pobl allan os bydd llifogydd
Wardeiniaid Ynni'n arbed arian i denantiaid
Rydym yn rhan o'r Cynllun Wardeiniaid Ynni, sy'n cael ei arwain gan Grŵp Cynefin, i roi cyngor i denantiaid ar sut i arbed ynni yn eu cartrefi. Yn 2015/16 mae'r prosiect hwn wedi gweithio gyda thenantiaid ym Môn, Bangor, Bethesda a Chaernarfon.
- Roedd 147 o ymweliadau â chartrefi pobl, oedd yn gyfle i lenwi holiaduron fel bod y wardeiniaid yn gallu cefnogi a chynghori tenantiaid ar sut i arbed ynni ac ar ymddygiad pobl gydag ynni.
- Llwyddo gyda 137 o geisiadau 'Warm Home Discount', sy'n werth cyfanswm o £19,180
- 70 o denantiaid ym Môn yn cael eu cyfeirio at gynllun HelpU Dŵr Cymru.
- Rydym ni'n amcangyfrif bod cyngor oddi wrth y Wardeiniaid Ynni wedi arwain at arbed 81,950 kg o Garbon y flwyddyn.
Mae'r cynllun yn cael ei ehangu i Gonwy ar gyfer 2016/17, gyda'r Wardeiniaid Ynni'n rhoi eu gwasanaethau i denantiaid yn Llandudno.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect ewch i'n gwefan yma
Cynnal Tenantiaeth
Mae gennym ymrwymiad i wneud yn sicr bod tenantiaid yn gallu parhau gyda'u tenantiaeth, gan asesu tenantiaid newydd cyn iddynt gael eu cartref newydd.
Hefyd mae gan Tai Gogledd Cymru dîm sy'n rhoi cyngor a chefnogaeth i denantiaid ar faterion ariannol (cynhwysiant ariannol) a chyngor ar ddyledion.
Am bob £1 y byddwn yn ei buddsoddi yn y gwasanaeth cynhwysiad ariannol a chyngor ar ddyledion, bydd tenantiaid yn cael gwerth £3.70 o fudd ohono. Roedd 72% o'n tenantiaid yn fodlon gyda'r cyngor a chefnogaeth ar gyfer rheoli arian, a 71% o denantiaid yn fodlon gyda'r cyngor a chefnogaeth ar gyfer hawlio budd-daliadau.
Mae Swyddog Cynhaliaeth Tenantiaeth wedi cael ei gyflogi erbyn hyn, er mwyn helpu i gefnogi mwy ar gynnal tenantiaeth pobl.
A ddylai cartref iawn ddim bod y peth lleiaf i'w ddisgwyl ar gyfer ein pobl hŷn yma yng Nghymru?
Mae Tai Gogledd Cymru yn cynnig nifer o wahanol ddewis ar gyfer llefydd fforddiadwy i fyw i bobl dros 55 oed ar draws Gogledd Cymru, wedi'u dylunio i annog pobl i fyw'n annibynnol. Rydym wedi datblygu arbenigedd mewn darparu Tai Gofal Ychwanegol, gyda 3 o gynlluniau erbyn hyn ar draws Gogledd Cymru.
Rydym wedi mabwysiadu'r thema unigrwydd ac unigedd o Heneiddio'n Dda Cymru, ar gyfer pob un o'r cynlluniau yn ystod y flwyddyn. Mae amrediad eang o weithgareddau wedi cael eu darparu er mwyn lleihau unigrwydd ac unigedd, gan greu 'canolfannau cymunedol'. Hefyd gweithio mewn partneriaeth, fel gyda Phrosiect Cymunedol Bus Stop, sydd wedi trefnu gweithdai crefft a sesiynau ymwybyddiaeth o dechnoleg gwybodaeth i breswylwyr.
Cynnal ein cartrefi
Mae gennym ein Tîm Trwsio tu mewn i'n sefydliad, i wneud gwaith ar gartrefi tenantiaid.
Roedd y Tîm Trwsio'n dathlu pen blwydd yn 5 oed yn Rhagfyr 2015. Cyn hynny, roedd y gwasanaeth ar gontract i gwmni allanol. Pan ddaeth y busnes hwnnw i ben yn Rhagfyr 2010, felly ychydig cyn y Nadolig, fe benderfynodd Tai Gogledd Cymru ddod â'r gwasanaeth y tu mewn i'n sefydliad, gan achub 8 swydd.
Ers hynny, mae'r Tîm Trwsio wedi dod mynd o nerth i nerth, ac yn cyflogi tîm o 20 o bobl erbyn hyn. Mae pump o'r rhai oedd gyda ni ar y dechrau'n dal i fod gyda ni.
Cynlluniau i Osod Rhannau Newydd a Gwaith Gwella
Rhaid i Tai Gogledd Cymru gynnal ansawdd ein cartrefi yn ôl Safon Ansawdd Tai Cymru, sy'n safon ansawdd cenedlaethol ar gyfer cartrefi, wedi'i osod gan Lywodraeth Cymru.
Wrth i'n cartrefi fynd yn hŷn, efallai bydd angen i ni osod rhannau newydd neu drwsio'r rhai presennol, rhannau fel ystafelloedd ymolchi, ceginau a gwydro dwbl, i wneud yn sicr eu bod yn cyrraedd y safon honno.
Menter Gymdeithasol
Yn Tai Gogledd Cymru rydym yn credu yn y ffordd y gall menter gymdeithasol achosi trawsnewid, ac rydym wedi ennill Nod Menter Gymdeithasol.
Cael gwybod mwy
Cydweithio
Rydym wedi cydweithio gyda grŵp o fentrau cymdeithasol efo'u canolfan yng Nghonwy, o dan yr enw Social Enterprise Business Solutions (SEBS) ac mae'r cyfuniad hwn wedi llwyddo i ennill statws Man Menter Gymdeithasol i Gonwy.
Mae Tai Gogledd Cymru hefyd yn rhan o North Wales Together, sy'n bartneriaeth gyda'r nod o greu swyddi llawn amser cynaliadwy i bobl sydd wedi bod yn y carchar. Mae'n gwneud hynny trwy ddod â chartrefi gwag yn ôl i gael eu defnyddio, a thrwy hynny leihau aildroseddu.
Cribiniau ac Ystolion
Cafodd Cribiniau ac Ystolion ei lansio yn 2014 fel ein tîm ar gyfer cynnal tiroedd a gwaith cynnal arall. Ers hynny mae wedi helpu i greu 8 o swyddi newydd i bobl oedd allan o waith am amser hir, yn cynnwys 2 brentisiaeth a 2 hyfforddai. Mae Tai Gogledd Cymru wedi buddsoddi yn eu datblygiad nhw, gan fod y prentisiaid a'r hyfforddeion yn gweithio tuag at ennill cymwysterau mewn garddwriaeth.
Mae'r tîm hwn hefyd wedi annog cymunedau i ddod at ei gilydd trwy gyfrwng garddio, gan helpu i ddatblygu clwb garddio mewn cynlluniau Pobl Hŷn yn ogystal â chymryd rhan mewn dyddiau plannu ar rai o'n stadau ni.
Hefyd mae'r lefelau bodlonrwydd ar gyfer ein gwasanaeth cynnal tiroedd wedi gwella:
"Rhaid i mi longyfarch Cribiniau ac Ystolion am waith o'r safon gorau. Roedd eu hagwedd tuag at waith wedi gwneud argraff dda arnaf; gosod nod ar gyfer y diwrnod a dal ati nes roedden nhw wedi'i chyrraedd."
Adrian, resident
"Rydw i eisiau eich llongyfarch chi ar yr holl waith caled gyda Cribiniau ac Ystolion. Mae'r tîm wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i'r tiroedd mewn amser mor fyr. Maen nhw'n rhoi argraff dda iawn o Tai Gogledd Cymru. Rydw i'n edrych ymlaen at yr haf gan fy mod i'n gwybod bydd gennym ardd ffantastig y bydd pawb yn gallu ei mwynhau."
Cheryl, Llys y Coed
Roedden nhw hefyd ar y rhestr fer ar gyfer 'Menter Gymdeithasol Orau' yng Ngwobrau Tai Cymru gan y Sefydliad Tai Siartredig (CIH) 2015.
- Cynaliadwyedd
- Wardeiniaid Ynni'n arbed arian i denantiaid
- Cynnal Tenantiaeth
- A ddylai cartref iawn ddim bod y peth lleiaf
i'w ddisgwyl ar gyfer ein pobl hŷn yma yng Nghymru?
- Cynnal ein cartrefi
- Cynlluniau i Osod Rhannau Newydd a Gwaith Gwella
- Menter Gymdeithasol
- Cribiniau ac Ystolion
Ymgysylltu, Gwrando, Gweithredu
Digwyddiadau a gweithgareddau
Panel Ymgynghorol Preswylwyr
Rhwydwaith Tai Pobl Ifanc
Prosiect Bus Stop
Ymgysylltu, Gwrando, Gweithredu
Mae gennym Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid o'r enw “Ymgysylltu, Gwrando, Gweithredu” sy'n cryfhau ein cysylltiad ni gyda thenantiaid a 'llais y tenantiaid' er mwyn llunio ein gwasanaethau.
Ein nod yw gwella ein gwasanaethau trwy gael tenantiaid i gymryd rhan lawn yn y gwaith o ddatblygu gwasanaethau a dylanwadu ar sut byddant yn cael eu darparu.
Byddwn yn gwneud hyn trwy gael digwyddiadau a gweithgareddau, grwpiau fel y Panel Cynghori Preswylwyr, y Grŵp Ymateb Cyntaf a thrwy weithio mewn partneriaeth gyda 'Byw yn Annibynnol/Rhwydwaith Tai Pobl Ifanc' a phrosiect 'Bus Stop'.
Cafodd cynlluniau newydd eu sefydlu hefyd, fel y 'Grant Datblygiad Personol' a'r 'Gronfa Gymunedol' i helpu tenantiaid unigol neu grwpiau gwirfoddol, cymunedol, hamdden neu grwpiau preswylwyr.
Digwyddiadau a gweithgareddau
Fe fyddwn yn trefnu nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau er mwyn ymgysylltu gyda detholiad eang o denantiaid. Ers Ebrill 2015, mae 439 o denantiaid wedi ymgysylltu â ni.
Dylai'r digwyddiadau a gweithgareddau hyn roi cyfle i denantiaid fod yn rhan o beth sy'n mynd ymlaen gan Tai Gogledd Cymru a gwella ansawdd bywyd yn y cymunedau y mae ein tenantiaid yn byw ynddynt. Gallant hefyd roi'r cyfle i ddysgu a datblygu sgiliau newydd.
Gall y digwyddiadau gynnwys grwpiau ffocws, gweithgareddau hanner tymor/haf yn ein cynlluniau ni, a gweithgareddau tai â chymorth fel prosiectau garddio.
Preswylwyr yn Trawsnewid Tir Segur i fod yn Ardd Blodau Gwyllt
Darllen Stori
Mae preswylwyr yn Ffordd Eithinog a Lôn Mieri ym Mangor wedi trawsnewid darn o dir oedd wedi cael ei adael, i fod yn ardd a dôl blodau gwyllt.
Daeth Ann Williams, Arweinydd Prosiect Garddio Bywyd Gwyllt gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, i arwain sesiwn wybodaeth i'r preswylwyr cyn iddynt gymryd rhan mewn plannu'r blodau gwyllt gyda staff a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth.
Planhigion, Potiau, Patios
Cafodd gweithdy ei gynnal ym Maes y Llan ar blanhigion i'w plannu at y gaeaf, a basgedi crog. Roedd yn gyfle i staff ymgysylltu â thenantiaid ac ymgynghori ar wahanol faterion.
Digwyddiad Y Plannu Mawr
Cafodd diwrnod o blannu bylbiau Cennin Pedr ei drefnu ar gyfer Cae Bold, lle'r oedd staff a thenantiaid yn plannu efo'i gilydd. Roedd Cribiniau ac Ystolion yno hefyd, i roi cyngor yn ddi-dâl ar arddio, ac roedd hefyd yn gyfle i ymgynghori ar wahanol faterion.
Ymgynghori ar gyfer Mapio Taith y Cwsmer – Gwella Gwasanaethau Cwsmeriaid
Rydym ni wedi bod yn ymgynghori ar gyfer Mapio Taith y Cwsmer, er mwyn deall sut mae tenantiaid yn teimlo am y gwasanaethau cwsmer maen nhw'n eu cael oddi wrth Tai Gogledd Cymru.
Cafodd 41 o denantiaid eu cyfweld un i un, a gofyn yn union beth oedd y 'pwyntiau cyswllt' roeddent wedi'u cael gyda Tai Gogledd Cymru. Cafodd 78 o deithiau eu cofnodi oddi wrth y cyfweliadau hyn.
Panel Ymgynghorol Preswylwyr
Rôl y Panel Ymgynghorol Preswylwyr yw bod yn 'gyfaill beirniadol' i herio'r rhai sy'n llunio polisïau a gwneud penderfyniadau, a gadael i leisiau a phryderon preswylwyr gael eu clywed.
Bydd y Panel yn cyfarfod bob mis, ym Mangor a Chyffordd Llandudno am yn ail, ac mae ganddo 8 aelod. Yn ystod y flwyddyn, mae'r Panel wedi bod yn ymwneud â:
- Monitro a rhoi sylwadau ar ein hadroddiadau perfformiad chwarterol
- Rhoi mewnbwn ar ein Strategaeth Cynaliadwyedd
- Adolygu ein Llawlyfr Tenantiaid
- Adolygu cynhyrchion sy'n cael eu defnyddio gan ein tîm gwaith Cynnal wedi'i Gynllunio ni e.e. y byrddau ar ben unedau cegin
- Adolygu Gwefan Tai Gogledd Cymru
- Hunanarfarnu
- Prosiect Digital First – roedd tri aelod o'r Panel yn rhan o dîm prosiect gyda rhai o'r staff, yn edrych ar y gwasanaethau rydym yn eu darparu'n ddigidol. Mae'r Porth Tenantiaid wedi cael ei ddatblygu, ac mae'n arf sydd ar gael ar lein yn ddi-dâl fel bod tenantiaid yn gallu logio i mewn a chael gwybodaeth am eu cartref.
- Prosiect Gwella Gwasanaethau Cwsmer
Ers Ebrill 2015, mae dau aelod wedi symud i'r Bwrdd Gwasanaethau Landlord.
Mae'r Panel Ymgynghorol Preswylwyr wedi cael cyfrifiaduron tabled i gefnogi eu gwaith fel aelodau. Bydd y rheiny'n ddefnyddiol ar gyfer darllen adroddiadau cyn cyfarfodydd yn ogystal ag ar gyfer gwneud ymchwil.
Dyma ddywedodd Roger, sy'n aelod o'r Panel:
"Mae bod yn aelod o'r Panel wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau cymdeithasol a sgiliau cyfathrebu, mewn awyrgylch o gyfeillgarwch ac ymlacio, ac ar yr un pryd yn fy helpu i wella effeithlonrwydd Tai Gogledd Cymru a hefyd ansawdd bywyd ei thenantiaid."
Grŵp Ymateb Cyntaf
Mae'r Grŵp Ymateb Cyntaf yn gronfa ddata o denantiaid sydd â diddordeb mewn bod yn 'ddarllenwyr' taflenni, ffurflenni, polisïau ayyb. ac wedyn rhoi adborth ar y rheiny. Bydd aelodau o'r Grŵp Ymateb Cyntaf hefyd yn gallu cymryd rhan mewn arolygon o dro i dro, a grwpiau ffocws, a chlywed am ffyrdd newydd o gymryd rhan wrth i'r rheiny ddatblygu.
Ar hyn o bryd, mae 37 o denantiaid ar gronfa ddata y Grŵp Ymateb Cyntaf, ond rydym yn tynnu sylw ato gydol yr amser er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth ohono a chael mwy o aelodau.
Mae'r Grŵp Ymateb Cyntaf wedi cymryd rhan yn y rhain:
- Ymgynghori ar y Strategaeth Gynaliadwyedd
- Grŵp canolbwyntio'r wefan
- Prosiect Gwella Gwasanaethau Cwsmer
- Gweithdy ar y daflen newyddion
Dyma ddywedodd Sue o Landudno:
"Mi wnes i fwynghau cymryd rhan yn fawr iawn ac rwy'n credu bod hynny'n rhoi grym yn ein dwylo ni; mi wnes i gyfarfod pobl newydd gyfeillgar, teimlo bod pobl yn gwrando ar fy marn a fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi A HEFYD cael talu fy nghostau teithio!"
Byw yn Annibynnol/Rhwydwaith Tai Pobl Ifanc
Mae hwn yn brosiect partneriaeth gyda Cartrefi Conwy, Grŵp Cynefin a phrosiect Bus Stop, wedi'i anelu tuag at bobl ifanc. Bydd preswylwyr ifanc Tai Gogledd Cymru a'r ddau landlord cymdeithasol arall yn cymryd rhan mewn cyfarfod Rhwydwaith Tai Pobl Ifanc, sy'n digwydd bob pythefnos ac yn gweithio ar wahanol brosiectau.
Roedd gan y Rhwydwaith 7 o bobl yn cymryd rhan, gyda 2 ohonynt yn breswylwyr Tai Gogledd Cymru.
Meddai Sam:
"Rwy'n meddwl ei fod yn syniad da iawn ac rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd. Mae angen mwy o wybodaeth am dai am eu bod nhw'n eich trin chi fel pe bai chi'n gwybod popeth ond go iawn does gennych chi ddim syniad."
Mae'r grŵp wedi datblygu gêm fwrdd 'Byw yn Annibynnol'. Cafodd y gêm ei datblygu i helpu pobl ifanc i ddysgu am sgiliau bywyd fel rheoli arian a chostau byw. Bydd y gêm fwrdd ar gael i fwy o bobl rŵan, gyda sefydliadau'n cael hyfforddiant ar sut i'w defnyddio fel arf ar gyfer dysgu, gyda phobl ifanc.
Darllen Stori
Mae'r prosiect yma wedi ennill Ymgyrch y Flwyddyn yng Ngwobrau Tai Cymru y CHI yn Nhachwedd 2015.
Mae gwefan wedi cael ei datblygu rŵan, ar ôl ymgynghori gyda phobl ifanc, ac ar gael fel adnodd http://www.goingitalone.co.uk/cy/
Y cam nesaf yn y Prosiect fydd trefnu Digwyddiad Ieuenctid fydd yn hyrwyddo'r Rhwydwaith Tai Pobl Ifanc a denu aelodau newydd.
Prosiect Bus Stop
Mae Bus Stop yn brosiect symudol ar gyfer datblygu cymunedol. Mae'n ddi-dâl ac yn gyfrinachol. Mae Tai Gogledd Cymru'n bartner ynddo, gyda Grŵp Cynefin, Cartrefi Conwy, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Bydd Bus Stop yn cynnig amrediad eang o wasanaethau a chyfleoedd, yn cynnwys:
- Dysgu anffurfiol a dysgu wedi'i achredu, ar gyfer pobl sydd eisiau ennill sgiliau newydd, yn cynnwys ysgrifennu CV, technegau cyfweliad ac adeiladu hyder
- Gwybodaeth a chefnogaeth ar bynciau perthnasol; yn cynnwys budd-daliadau, iechyd a lles a'ch hawliau chi
- Cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau cymunedol lleol
- Prosiectau sy'n annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn ffordd gadarnhaol yn eu cymunedau
- Cyfleoedd i bobl rannu eu syniadau a'u teimladau am eu cymunedau lleol
- Gall y cyfan o'r rhain ddigwydd o gerbyd y Prosiect, sy'n gallu parcio yn union du allan i ddrws y tŷ neu mewn lle cyfleus arall
Ers mis Hydref 2015 mae Bus Stop wedi darparu'r prosiectau a ganlyn ar ran Tai Gogledd Cymru:
Prosiect haf Parc Clarence
Amrywiaeth o weithgareddau thematig bob wythnos ar yr ystad, gydag elfen o hwyl ac addysg ym mhob un. Roedd y sesiynau wedi'u cynllunio a'u darparu'n ofalus er mwyn gwella sgiliau a hyder y bobl ifanc.
Cynllun Gofal Ychwanegol Cae Garnedd
Mae Bus Stop wedi darparu nifer o sesiynau, yn cynnwys sesiwn blannu, bingo, dwy sesiwn celf a chrefft, cwis a bore coffi i orffen y prosiect.
Nod hyn oedd rhedeg sesiynau gyda'r preswylwyr oedd yn hwyl ac anffurfiol, i dargedu unigedd cymdeithasol. Annog preswylwyr i ymgysylltu'n gadarnhaol tu mewn i'r cynllun gofal ychwanegol. Rhoi cyfleoedd i'r preswylwyr rannu eu syniadau a'u teimladau am eu cymuned a'r lle byw.
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Maes y Llan
Y nod oedd lleihau'r ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y stad trwy gysylltu gyda chymaint o bobl ifanc ag y bo modd. Roedd Bus Stop eisiau cynyddu ymwybyddiaeth o sut gall ymddygiad gwrthgymdeithasol effeithio nid yn unig arnynt hwy ond hefyd eu teulu a'r gymuned ehangach.
Gweithgareddau Hanner Tymor Calan Gaeaf
Gofynnwyd i Bus Stop drefnu gweithgareddau Calan Gaeaf gyda phobl ifanc Heol Dirion, Maes Myrddin a Pharc Clarence yn ystod y cyfnod hanner tymor.
Gweithgareddau Nadolig
Mae Bus Stop wedi rhedeg nifer o sesiynau crefft yn y cyfnod hyd at wyliau'r Nadolig, ar Heol Dirion, Maes y Llan, a Pharc Clarence. Roedd y bobl ifanc yn cymryd rhan ac yn gallu mynd ag addurniadau Nadolig wedi'u gwneud ganddynt eu hunain adref gyda nhw.
Dysgu am y byd digidol yn Taverners Court
Mae Bus Stop wedi cynnal sesiynau technoleg gwybodaeth yng Nghynllun Tai Gwarchod Taverners Court yn Llandudno i bobl dros 60 oed. Cafodd y preswylwyr gyfle i ddysgu mwy am negeseuon e-bost, sut i gysylltu gyda Wi-Fi, gosodiadau preifatrwydd Facebook, cysylltu argraffydd, lawrlwytho apps, siopa ar y we, defnyddio ipad, a windows 10.
Grant Datblygiad Personol
Mae ein grant datblygiad personol wedi'i ddatblygu i daclo rhwystrau ariannol allent fod yn atal ein tenantiaid rhag gallu cael mynediad at addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Roedd 5 cais yn llwyddiannus, a daeth un o'r rheiny oddi wrth denant o'r enw Helen ym Mhorthaethwy:
"Mae'r Grant Datblygiad Personol wedi caniatáu i ni fynd un cam yn nes at agor busnes bach. Heb y grant, mi fyddai wedi cymryd llawer o fisoedd eto i gael yr holl offer sydd ei angen. Roedd y grant yn £250, i gael peiriant pacio 'shrink wrap' er mwyn cadw, diogelu a chyflwyno ein cynnyrch. Roedd yn syml iawn gwneud cais am yr arian, mi wnes i'r cyfan mewn un e-bost ac roedd wedi'i orffen yn gyflym. Roeddwn i'n disgwyl cael llawer o drafferth a rhwystrau ond mewn gwirionedd mi oedd yn gwbl wahanol i hynny."
Mae Robin o Gonwy yn astudio Celf a Dylunio yng Ngholeg Llandrillo –
"Rydw i'n astudio celf yng Ngholeg Llandrillo ac wedi bod yn wirioneddol brin o ddeunyddiau celf, roeddwn i'n ei chael yn anodd i ateb gofynion y tiwtoriaid. Roeddwn i'n syrthio ar ôl gyda fy ngwaith celf ond diolch i Dai Gogledd Cymru roedd grant i mi brynu offer celf, ac rydw i'n wirioneddol ddiolchgar am hynny a ddim yn sicr beth fyddwn wedi'i wneud hebddo."
Tracy ym Mae Colwyn:
"Roeddwn i wedi penderfynu, yn lle bod am flynyddoedd mewn gwaith oedd yn arwain at ddim arall neu waith tymhorol, fy mod eisiau gweithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol, ac eisiau dechrau astudio Cwrs Gweinyddu Meddygol Lefel 3 yn llawn amser. Rydw i'n fam sengl ar fudd-daliadau a doedd dim modd i mi fynd ar y cwrs heb gael y grant."
Cronfa Gymunedol
Mae ein rhaglen cronfa gymunedol ni wedi'i datblygu i ddarparu arian i helpu grwpiau gwirfoddol, cymunedol, hamdden neu grwpiau preswylwyr sydd efo'u canolfan yn siroedd Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.
Mae 4 grŵp cymunedol wedi cael grantiau bychan. Un o'r rheiny yw Cyfeillion Llyfrgell Gymunedol Llanfairfechan. Maen nhw wedi dechrau rhedeg y llyfrgell eu hunain ac yn darparu gwasanaeth llyfrgell deithiol i Gynllun Gofal Ychwanegol Llys y Coed. Mae'r grŵp hwn yn awyddus i hyrwyddo'r cyrsiau sy'n cael eu rhedeg a'r offer technoleg gwybodaeth sydd ar gael i'w ddefnyddio yn y llyfrgell.
Ymgeiswyr llwyddiannus eraill oedd:
- Penfoodbank
- Mochdre Juniors
- Clwb Pêl-droed Llandudno
- Chwarae a Dysgu Deganwy
- Pêl-fasged cadeiriau Olwyn Conwy Thunder
- Cyffordd Llandudno Junction TRAKZ
Dyma ddywedodd Helen o Junction TRAKZ:
"Rydw i'n ysgrifennu i ddiolch i Tai Gogledd Cymru am gefnogi Cyffordd Llandudno Junction Trakz yn eu prosiect i drefnu Gŵyl Bysgio Stryd gyda Digwyddiadau Ymylol. Rydym ni'n ceisio cynnwys pob elfen o'r gymuned sydd yn ein tref fechan wasgarog ni erbyn hyn."
"Mae'n beth da bod Tai Gogledd Cymru'n gweld pwysigrwydd ymwneud gyda digwyddiadau cymunedol, yn enwedig rhai sy'n cynnwys eu tenantiaid ac o fudd iddynt. Mae hyn yn gyfraniad gwych i gydlyniad cymunedol a lles yn y gymuned."
- Ymgysylltu, Gwrando, Gweithredu
- Digwyddiadau a gweithgareddau
- Panel Ymgynghorol Preswylwyr
- Grŵp Ymateb Cyntaf
- Byw yn Annibynnol / Rhwydwaith Tai Pobl Ifanc
- Prosiect Bus Stop
- Grant Datblygiad Personol
- Cronfa Gymunedol