Gweithiwr / Swyddog Cymorth Tai – Pwll Talent
Lleoliad: Colwyn Bay or Bangor
Teip: Dros Dro, Llawn Amser, Parhaol, Rhan Amser, Tai â Chymorth
Oriau: yn dibynnu ar rôl ac oriau sydd ar gael)
Proffil Rôl
Ffurflen Cais
Gweithiwr / Swyddog Cymorth Tai – Pwll Talent
Er mwyn ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i anghenion cynyddol ein cymuned, rydym yn sefydlu Pwll Talent o Weithwyr/Swyddogion Cymorth Tai. Mae hyn yn ein galluogi i benodi cyn gynted ag y bydd cyfleoedd yn codi, gan sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau cymorth o ansawdd uchel yn ddi-oed. Trwy ymuno â’n Pwll Talent, byddwch ymhlith y cyntaf i gael eich ystyried ar gyfer swyddi a phrosiectau sydd ar ddod.
Yma yn Tai Gogledd Cymru, rydym yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl bob dydd. Os ydych wedi ymrwymo i’n helpu i gyflawni hyn, byddwn yn sicrhau ein bod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’ch bywyd hefyd. Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i adeiladu ar 50 mlynedd o ddarparu cartrefi o safon ar draws Gogledd Cymru, buddsoddi mewn cymunedau a chefnogi’r rhai sy’n wynebu digartrefedd.
Fel cyflogwr Buddsoddwyr Safon Aur mewn Pobl, rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd lle gall ein pobl ffynnu a bod yn falch o’u gwaith, mewn diwylliant sy’n eu galluogi i gyflawni eu potensial a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad.
Y Pecyn
- Cyflog hyd at £25,107 (yn dibynnu ar rôl ac oriau sydd ar gael)
- Oriau amrywiol ar gael
- O leiaf 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc (pro rata)
- Nifer o fuddion gydag arbedion ar fwyd, siopa ar y stryd fawr, technoleg newydd, gwyliau ac ati.
- Cefnogaeth gydag astudiaethau pellach a chyfleoedd datblygu gyrfa
- Cynllun beicio I’r gwaith a chynllun prynu Gwyliau Blynyddol
- Cymorth iechyd gweithwyr
- Tâl mamolaeth a thadolaeth ychwanegol
- Cynllun pensiwn cyfrannol hael
Y Swydd – Gweithiwr / Swyddog Cymorth Tai
Byddwch yn cefnogi preswylwyr mewn lleoliad llety â chymorth a/neu’r gymuned gyda’u hanghenion tai a’u sgiliau bywyd mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n seiliedig ar drawma. Bydd hyn yn cynnwys:
- Cefnogi preswylwyr ag iechyd meddwl a lles, drwy annog gweithgareddau a ffyrdd iach o fyw, a chyfeirio at wasanaethau
- Cynorthwyo gyda hawliadau am fudd-dal tai a budd-daliadau cysylltiedig i gefnogi sefydlogrwydd ariannol
- Trefnu a rheoli amrywiaeth o weithgareddau difyr i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol
- Chwarae rôl ymarferol wrth ymateb i ddigwyddiadau’n briodol, cysylltu â staff TGC, gwasanaethau brys, asiantaethau gwirfoddol a statudol,
- Cynnal cofnodion a ffeiliau defnyddwyr gwasanaeth cywir
Ein Gofynion – Gweithiwr / Swyddog Cymorth Tai
- Naill ai’n gallu cynnal sgyrsiau sylfaenol o leiaf yn y Gymraeg (er y gallech gael trafferth cadw i fyny yn llawn) neu fod yn dysgu Cymraeg ar hyn o bryd / yn barod i ddysgu Cymraeg i’r lefel ofynnol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar gleientiaid, fel tai, gofal neu rywbeth tebyg (e.e. cefnogi unigolion i adrodd am faterion cynnal a chadw, gwneud apwyntiadau gofal iechyd, dilyn hobïau, sicrhau hyfforddiant a chyflogaeth, ac ati)
- Gwybodaeth am anghenion cymorth pobl fregus
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig da
- Gweithio’n galed, gydag agwed gadanrhaol, ymarferol
- Meddu ar sgiliau TG sylfaenol, gyda gwybodaeth o Microsoft Word, Excel, ac Outlook
Yn Tai Gogledd Cymru rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles defnyddwyr gwasanaeth. Rhaid i chi fod yn barod i’n sefydliad gynnal gwiriad datgeliad DBS sylfaenol.
Mae Tai Gogledd Cymru yn sefydliad cyfle cyfartal sy’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol yn arbennig. Bydd pob ymgeisydd Du, Asiaidd ac o leiafrif ethnig, yn ogystal ag ymgeiswyr anabl sy’n bodloni ein meini prawf hanfodol yn sicr o gael cyfweliad.
Datganiad Preifatrwydd
Fel rhan o’n proses recriwtio, mae Tai Gogledd Cymru (TGC) yn casglu ac yn prosesu data personol sy’n ymwneud ag ymgeiswyr am swyddi. Data personol yw unrhyw ddata neu wybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod unigolyn neu ddata a fyddai, o’i gymysgu â gwybodaeth arall a gedwir am yr un unigolyn, yn ei gwneud yn amlwg pwy yw gwrthrych y data. Mae TGC wedi ymrwymo i fod yn dryloyw ynghylch sut y mae’n casglu ac yn defnyddio’r data hwnnw ac i gyflawni ei rwymedigaethau diogelu data. I weld ein Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd, CLICIWCH YMA