Oherwydd canllawiau Coronafirws gan y Llywodraeth, mae ein swyddfeydd wedi cau i ymwelwyr a bydd staff yn gweithio o adra.
Cysylltu â ni
Gan fod ei swyddfeydd bellach ar gau, y ffordd gorau i gysylltu â ni ydi trwy ffôn neu e-bost:
Ffôn : 01492 572727
Ebost: [email protected]
Efallai y bydd ymateb i gyfathrebu ysgrifenedig trwy’r gwasanaeth post yn cymryd mwy o amser i ni oherwydd bod y swyddfa ar gau.
Ein gwasanaethau trwsio
Mae’r tîm Cynnal a Chadw wedi dechrau gwneud nifer cyfyngedig o waith trwsio heblaw gwaith brys unwaith eto.
Bydd y tîm yn dechrau gwneud gwaith i gragen eiddo e.e. drysau, to, cwteri, paentio a rhywfaint o waith mewnol os gellir rheoli pellter cymdeithasol.
Mae llawer iawn o waith trwsio wedi cronni ac mae’r tîm yn gweithio eu ffordd drwy’r rhain; rydym yn blaenoriaethu’r rhain ar sail risg a pryd yr adroddwyd amdanynt wrthym yn y lle cyntaf. Bydd y Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad, felly peidiwch â chysylltu â ni oherwydd gall llinellau ffôn fod yn brysur. Diolch i chi am eich amynedd.
Hoffem ofyn i chi, pan fydd y Tîm yn galw i wneud y gwaith yma, eich bod yn sicrhau bod rheolau pellhau cymdeithasol yn cael eu cadw. Bydd gan y Tîm hefyd yr offer addas i gynnal diogelwch pawb. Yn y cyfamser rydym yn diolch i chi am eich amynedd.
Byddem yn adolygu y sefyllfa yn reolaidd gan sicrhau ein bod yn cydymffurfio gyda canllawiau Llywodraeth Cymru.
Byddwn yn adolygu’r sefyllfa yn aml ac bydd y dudalen hon a Facebook a Twitter hefyd yn cael ei ddiweddaru.