Cystadlaethau tenantiaid

O bryd i’w gilydd rydym yn cynnal cystadlaethau tenantiaid, i ddathlu ysbryd cymunedol ac annog cyfranogiad tenantiaid. Ymysg y cystadlaethau rydyn ni’n eu cynnal yn rheolaidd y mae:

Cystadleuaeth arddio 2023

Cystadleuaeth i rai sydd â bysedd gwyrdd, mae’n dathlu’r gwaith caled y mae preswylwyr yn ei wneud yn eu gerddi, gan roi cymhelliant ychwanegol i breswylwyr ofalu am eu cartrefi. Gyda chategorïau fel yr ardd orau, yr ardd sydd wedi’i gwella fwyaf, yr ardd potiau orau, a’r lle/gardd gymunedol orau, mae rhywbeth at ddant pawb. Mwy o wybodaeth a sut i wneud cais yma. Cymerwch gip ar enillwyr y llynedd i gael ysbrydoliaeth yma.

Gwobr Cymdogion Da

Mae’r gystadleuaeth boblogaidd yn talu teyrnged i denantiaid Tai Gogledd Cymru sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau eu cymdogion. Gan ddathlu ysbryd cymunedol, roedd y gystadleuaeth yn ei thrydedd flwyddyn yn 2020, a choronwyd Geoff Uttley o Lys y Coed a Jean Hayward o Hafod y Parc yn enillwyr.

Cystadlaethau arall

Cadwch lygad ar ein tudalen Newyddion, Facebook neu Twitter er mwyn dod i wybod am unrhyw gystadlaethau sydd ar y gweill ac efallai y cewch gyfle i ennill!