Gofal Ychwanegol

Gallai Tai Gofal Ychwanegol fod yn allweddol i fyw’n annibynnol gyda gofal. Mae’n addas i rai dros 55 oed yng Ngwynedd, neu dros 60 yng Nghonwy sydd yn dymuno dal ati i fyw’n annibynnol.

Rydym yn croesawu preswylwyr gydag anghenion gwahanol, gan amrywio o’r rhai sydd angen ychydig bach mwy o ddiogelwch, sicrwydd, help neu ofal i eraill sy’n fregus iawn ac sydd angen y gwasanaeth llawn y gallwn ei gynnig.

Bydd trigolion yn cael eu cefnogi mewn ffordd sy’n eu galluogi i aros yn annibynnol yn hirach. Gallant symud mewn fel person sengl neu gyda’u partner, a bydd ganddynt eu fflat eu hunain.

Mae gan bob cynllun nifer o fannau sy’n cael eu rhannu gan bawb – lolfa gyffredin, gerddi a lle parcio digonol. Bydd llofftydd gwesteion ar gael i deulu a chyfeillion allu ymweld ac aros. Bydd hefyd cyfle i ymhél â gweithgarwch cymdeithasol yn rhoi cyfle i fwynhau hobïau hen neu newydd ac i gymdeithasu. O ddydd Llun i ddydd Gwener bydd cefnogaeth Rheolwr Cynllun a bydd larwm argyfwng 24 awr a drws mynediad diogel ar waith hefyd.

Yn y pen draw eu cartref nhw ydyw, a nhw sy’n dal i reoli eu harian eu hun, preifatrwydd, trefn eich diwrnod, hynny yw…popeth sy’n bwysig iddyn nhw. Ein nod ni yw bod yno i roi’r Gofal Ychwanegol i’w helpu i wneud hynny.

Mwy o wybodaeth

Rydym yn gwerthfawrogi y gallai fod gennych lawer o gwestiynau ynglŷn â Tai Gofal Ychwanegol, felly rydym wedi llunio pamffled gyda gwybodaeth bellach am gofal ychwanegol. Gallwch lawr lwytho ffurflen cais am gofal ychwanegol yma. Fel arall, os hoffech i ni anfon copi papur atoch, e-bostiwch [email protected] neu  ffoniwch ni ar 01492 572727.