Tai Gwarchod

Bydd Tai Gwarchod yn golygu eich bod yn gallu byw’n annibynnol mewn cartref sy’n hawdd i’w reoli, ac yn eich gadael chi’n rhydd i fwynhau bywyd gyda’r tawelwch meddwl bod cefnogaeth ar gael pan fyddwch ei angen.

Mae pob fflat yn annibynnol ac yn cynnwys cegin gyda set lawn o unedau ynddi, ystafell ymolchi, ystafell wely a lolfa. Maen nhw hefyd yn cynnig amrediad o gyfleusterau sy’n cael eu rhannu, fel ardaloedd lolfa a gerddi sydd ar gael i bawb.

Bydd pob lle byw’n cael cefnogaeth yn ystod dyddiau’r wythnos gan warden profiadol sy’n gallu cynnig cymorth a chefnogaeth pan fyddwch ei angen. Mae gan bob un o’n heiddo hefyd larwm argyfwng 24 awr o’r dydd a system fynediad ddiogel ar y drysau.

Hefyd mae gweithgareddau cymdeithasol ar gael, os byddwch eisiau cymryd rhan ynddynt, i roi cyfle i chi fwynhau hobïau newydd neu rai rydych yn eu dilyn yn barod, ac i gymdeithasu.

Mae gan y rhan fwyaf o’n heiddo ni hefyd ystafell gyfleus ar gyfer gwesteion, pan fydd cyfeillion a theulu’n ymweld, ac mae ar gael am dâl bychan.

I wneud cais am Dai Gwarchod yn yr ardal Gwynedd cysylltwch ȃ Opsiynau Tai Gwynedd ar 01286 685100 Gwefan

I wneud cais am Dai Gwarchod yn yr ardal Conwy cysylltwch ȃ Datrysiadau Tai Conwy ar 0300 124 0050 Gwefan