Rydym yn eich cefnogi i fod yn gwbl annibynnol
Mae ein Gwasanaeth Cefnogaeth Symudol yn cynnig cymorth ychwanegol pan fyddwch yn symud ymlaen, neu eisoes yn byw, yn un o’n cartrefi.
Byddwn yn…
- Cynnig cefnogaeth i chi sy’n seiliedig ar eich anghenion a byddwn yn gwneud hyn hyd nes byddwch yn barod i fod yn gwbl annibynnol. Ein cam cyntaf yw ysgrifennu Cynllun Cefnogaeth personol gyda chi a byddwn yn ei adolygu a’i newid wrth i’ch anghenion chi newid.
- Eich helpu i ddatblygu sgiliau da i fyw yn annibynnol. Byddwn yn eich helpu i ddod yn hyderus wrth reoli eich arian eich hun, cyllidebu a hawlio budd-daliadau lles; siopa, coginio a glanhau; gwneud cais am grantiau ar gyfer dodrefn, offer cegin a beth bynnag arall sydd ei angen arnoch ac yn eich helpu i gael cysylltiad nwy a thrydan.
- Gweithio gyda chi i ddatblygu a gwella eich sgilau personol, gan eich helpu i fod yn fwy hyderus ac yn glir ynghylch yr hyn rydych ei eisiau. Byddwn yn eich helpu i siarad gyda sefydliadau sy’n gofalu am eich iechyd; sefydliadau a all gynnig cyfleoedd addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, gwaith gwirfoddol a hyfforddiant sgiliau sylfaenol i chi.
Bydd eich llety yn cyrraedd y safonau y mae Tai Gogledd Cymru wedi cytuno arnynt a byddwn yn eich cefnogi wrth ddelio ag unrhyw waith atgyweirio a materion iechyd a diogelwch.
Mwy o wybodaeth
- Am fwy o wybodaeth ffoniwch ni ar:
- Conwy: 01492 572727
- Gwynedd: 01248 370227
- Neu anfonwch e-bost atom E: [email protected]