Monte Bre

Gallwn gefnogi eich lles meddyliol

Mae Monte Bre yn darparu llety â chymorth i chi os ydych yn gwella ar ôl anhwylder iechyd meddwl, neu os oes gennych anhwylder iechyd meddwl hir dymor.

Os ydych yn cael eich cyfeirio atom gan y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol lleol neu’r Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Tim Cynghori Tai )) ac yn awyddus i weithio gyda ni, byddwn yn rhoi esboniad llawn ar ein gwasanaeth mewn cyfarfod gydag aelod o staff a byddwn yn ysgrifennu Cynllun Cefnogaeth personol gyda chi.

Byddwn yn cynnal cyfarfodydd wythnosol gyda chi i drafod eich cefnogaeth ac adolygu a newid eich Cynllun Cefnogaeth wrth i’ch anghenion newid, er mwyn gwneud yn siwˆ r eich bod yn symud tuag at fod yn fwy annibynnol.

Byddwn yn:

  • Eich helpu i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol da, fel siopa, coginio a glanhau;
  • Eich helpu i ddod yn hyderus wrth reoli eicharian drwy gyllidebu
  • Eich cefnogi i gael mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol
  • Eich cefnogi i gysylltu â sefydliadau perthnasol eraill am gymorth a chyngor
  • Eich cefnogi i gael mynediad at addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddol
  • Eich cefnogi i ddod yn rhan o gymuned ehangach
  • Eich cefnogi i lenwi ffurflenni cais am dai a chysylltu â landlordiaid a hosteli
  • Eich cefnogi a’ch paratoi i symud ymlaen i’ch llety eich hun
  • Gwethio mewn partneriaeth gyda asiantaethau

Byddwn yn eich helpu i adeiladu perthynas â phobl eraill, gan weithio’n galed i wneud yn siwˆ r nad ydych yn dioddef gwahaniaethu ac yn eich helpu i ddod yn rhan o’ch cymuned ehangach.

Wrth i chi symud ymlaen, byddwn yn eich cefnogi I gynllunio ar gyfer y dyfodol ac yn eich helpu â cheisiadau am dai. Yn ystod eich amser gyda ni, rydym yn ymrwymedig i sicrhau eich diogelwch corfforol ac emosiynol ac yn cynnig mynediad at gefnogaeth staff rhwng 9am – 5pm o ddydd Llun iddydd Gwener.

Rydym yn clarparu ein gwasanaethau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; rydym yn darparu mynediad cyfartal a theg i bawb; rydym yn rhoi gwybodaeth lawn am yr hyn rydym yn ei wneud; rydym yn esbonio eich hawliau a’ch cyfrifoldebau i chi; rydym yn eich trin â pharch ac rydym yn gofyn i chi ddweud wrthym yn onest beth yw eich barn am ein gwasanaethau.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch ni ar 01492 860218 neu anfonwch e-bost atom yn [email protected]

Gweler Hysbysiad Preifatrwydd Monte Bre yma.