Penrhos Corner

Rydym yn eich cefnogi i gynnal eich lles meddyliol

Mae Penrhos Corner yn darparu llety â chymorth i chi os ydych yn gwella neu gyda mater iechyd meddwl hir dymor. Os ydych yn cael eich cyfeirio atom gan y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol lleol neu’r Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Tim Cynghori Tai) ) ac yn awyddus i weithio gyda ni, byddwn yn rhoi esboniad llawn ar ein gwasanaeth mewn cyfarfod gydag aelod o staff a byddwn yn ysgrifennu Cynllun Cefnogaeth personol gyda chi.

Byddwn yn:

  • Yn cynnal cyfarfodydd wythnosol gyda chi i drafod eich anghenion cefnogaeth, ac adolygu eich Cynllun Cefnogaeth yn rheolaidd.
  • Byddwn yn gweithio’n agos gyda’ch Gweithiwr Cymdeithasol neu Nyrs Seiciatrig Gymunedol er mwyn eich cefnogi, os oes gennych chi un.
  • Eich helpu i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol da, fel siopa, coginio a glanhau;
  • Eich helpu i ddod yn hyderus wrth reoli eicharian drwy gyllidebu
  • Eich cefnogi i gael mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol
  • Eich cefnogi i gysylltu â sefydliadau perthnasol eraill am gymorth a chyngor
  • Eich cefnogi i gael mynediad at addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddol
  • Eich cefnogi i ddod yn rhan o gymuned ehangach
  • Eich cefnogi a’ch paratoi i symud ymlaen i’ch llety eich hun

Byddwn yn eich helpu i adeiladu perthynas â phobl eraill, gan weithio’n galed i wneud yn siwˆ r nad ydych yn dioddef gwahaniaethu a’ch helpu i ddod yn rhan o’ch cymuned ehangach. Wrth i chi symud ymlaen, byddwn yn eich cefnogi i gynllunio ar gyfer y dyfodol a’ch helpu â cheisiadau am dai.

Yn ystod eich amser gyda ni, rydym yn ymrwymedig i sicrhau eich diogelwch corfforol ac emosiynol a chynnig mynediad at gefnogaeth staff yn ystod yr wythnos.

Rydym yn clarparu ein gwasanaethau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; rydym yn darparu mynediad cyfartal a theg i bawb; rydym yn rhoi gwybodaeth lawn am yr hyn rydym yn ei wneud; rydym yn esbonio eich hawliau a’ch cyfrifoldebau i chi; rydym yn eich trin â pharch ac rydym yn gofyn i chi ddweud wrthym yn onest beth yw eich barn am yr hyn rydym yn ei wneud.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch ni ar 01492 860218 neu anfonwch ebost atom i [email protected].

Gweler Hysbysiad Preifatrwydd Penrhos Corner yma.