Cynlluniau Partneriaeth Asiantaeth

Mae gan Tai Gogledd Cymru amrywiaeth o Gynlluniau a Reolir gan Asiantaeth ar draws Conwy, Gwynedd, Ynys Môn a Sir Ddinbych.

Cafodd y cynlluniau hyn eu sefydlu mewn cytundeb rhwng Tai Gogledd Cymru, Awdurdodau Lleol ac Asiantaethau Gofal ac maent yn darparu llety a chefnogaeth sy’n canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn. Cawsant eu sefydlu mewn ymateb i’r newid parhaus mewn anghenion pobl  ac i ddarparu llety diogel lle gall pobl fyw bywydau llawn ac annibynnol, gyda help llaw eu gweithwyr cymorth. Mae’r cartrefi hyn yn darparu byw â chymorth o fewn cymunedau lleol i’n Tenantiaid.Ar

Ar hyn o bryd mae 31 eiddo a Reolir gan Asiantaeth ar draws Conwy, 4 yng Ngwynedd, 4 yn Ynys Môn a 3 yn Sir Ddinbych. Mae’r eiddo yma’n darparu byw â chymorth i bobl sydd â chymysgedd amrywiol o anghenion ac mae’r tai yn cefnogi pobl sydd â’r anghenion canlynol:

  • Anableddau Dysgu
  • Cynlluniau Iechyd Meddwl
  • Anableddau Corfforol a Nam ar y Synhwyrau
  • Pobl ifanc sy’n gadael gofal a phobl ifanc sy’n symud ymlaen o lety Hostel
  • NACRO Doorstop i oedolion â phroblemau camddefnyddio sylweddau a/neu gefndir troseddol for
  • Eiddo Lloches Cymorth i Ferched

Mae Tai Gogledd Cymru yn darparu’r eiddo ac yn cwblhau’r Rheolaeth Tai ar gyfer y Tenantiaid. Mae’r Asiantaethau Gofal wedyn yn rhoi cymorth o ddydd i ddydd, ar wahanol lefelau yn dibynnu ar anghenion unigolion. Mae sawl eiddo wedi’i addasu’n arbennig i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion ein tenantiaid er mwyn sicrhau eu bod yn gallu mwynhau eu cartrefi’n llawn.

Mae llwyddiant yr eiddo yma’n dibynnu ar weithio mewn partneriaeth gyda phartneriaid ar draws y siroedd a dyma restr o rai o’r partneriaid rydym yn gweithio gyda hwynt:

 Am fwy o wybodaeth ffoniwch ni ar 01492 572727 neu anfonwch ebost at [email protected].