Gwasanaeth Cefnogaeth Cyfiawnder Ieuenctid

Gweithio gyda Throseddwyr Ifanc

Mae’r prosiect hwn yn darparu cymorth cysylltiedig â thai i unigolion o Wynedd a Môn rhwng 14 -18 oed, sy’n ymwneud â Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd ac Ynys Môn. Caiff pobl ifanc sy’n agored i niwed eu hannog i fynd i’r afael, nid yn unig â’u hymddygiad troseddol a fydd yn gyfrifoldeb y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid, ond hefyd y problemau cysylltiedig a chyfrannol eraill sy’n gysylltiedig ag atal digartrefedd. Mae’r prosiect yn darparu cyngor a chymorth tai addas ac amserol ar gyfer grŵp penodol o ddefnyddwyr gwasanaeth, fel rhan o becyn ehangach o ddarpariaeth i ddiwallu eu hanghenion.

Daw atgyfeiriadau ar gyfer y prosiect yn uniongyrchol oddi wrth y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid.

Darperir cefnogaeth trwy gydol yr wythnos waith – 9yb – 5yp a chaiff ei deilwra i ddiwallu anghenion yr unigolion.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch ni ar 01248 372083 neu e-bostiwch [email protected].