Prosiect Gwasgaredig

Rydym yn eich cefnogi i fod yn gwbl annibynnol

Rydym yn darparu llety i bobl sy’n agored i niwed sydd angen cefnogaeth, ar draws ardaloedd Gwynedd a Chonwy. Gallwch aros yn un o’n tai neu’n fflatiau am hyd at ddwy flynedd a byddwn yn eich cefnogi am gynfod ar ôl hynny wrth i chi symud tuag at fyw’n annibynnol.

Ein cam cyntaf yw egluro beth rydym yn ei wneud a’ch helpu i benderfynu os yw’r prosiect yn iawn i chi. Os byddwn yn cynnig cefnogaeth i chi, gyda’n gilydd byddwn yn ysgrifennu Cynllun Cefnogaeth personol a byddwn yn ei adolygu a’i newid wrth i’ch anghenion chi newid. Bydd ein Gweithiwr Cefnogol yn ymweld â chi i wneud hyn, gan helpu i’ch paratoi i gael mwy o annibyniaeth.

Byddwn yn:

  • Eich helpu i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol da, fel siopa, coginio a glanhau;
  • Eich helpu i ddod yn hyderus wrth reoli eich arian drwy gyllidebu
  • Eich cefnogi i gael mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol
  • Eich cefnogi i gysylltu â sefydliadau perthnasol eraill am gymorth a chyngor
  • Eich cefnogi i gael mynediad at addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddol
  • Eich cefnogi i ddod yn rhan o gymuned ehangach
  • Eich cefnogi i lenwi ffurflenni cais am dai a chysylltu â landlordiaid
  • Eich cefnogi a’ch paratoi i symud ymlaen i’ch llety eich hun
  • Eich cefnogi wrth sefydlu eich cyflenwadau (nwy/trydan)

Byddwn yn cyflenwi ein gwasanaethau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; byddwn yn darparu mynediad cyfartal a theg i bawb; byddwn yn rhoi gwybodaeth lawn am yr hyn rydym yn ei wneud; byddwn yn esbonio eich hawliau a’ch cyfrifoldebau i chi; byddwn yn eich trin â pharch a byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym yn onest beth yw eich barn am yr hyn rydymyn ei wneud.

Mwy o wybodaeth

  • Am fwy o wybodaeth ffoniwch ni ar
    • 01492 572727
  • Neu anfonwch e-bost atom yn [email protected]