Mae’r prosiect hwn yn darparu cymorth cysylltiedig â thai i unigolion o Wynedd rhwng 16 -18 oed, sy’n ymwneud â thîm 16+ Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd.
Mae’r prosiect yn darparu llety preswyl i hyd at dri o bobl ifanc, ac yn cynnig cefnogaeth symudol yn y gymuned ar gyfer pobl ifanc sy’n byw’n annibynnol yn y gymuned.
Mae’r prosiect yn cynnig cefnogaeth mewn perthynas â:
- Datblygu sgiliau byw’n annibynnol
- Annog ymddygiad cymdeithasol cadarnhaol
- Datblygu ac annog perthnasau cadarnhaol
- Ymgysylltu â chyflogaeth, gwirfoddoli ac addysg
- Lles a chefnogaeth emosiynol
- Datblygu diogelwch personol a chymunedol
Nid yw hon yn rhestr gyflawn ond mae’n rhoi syniad o’r ymagwedd gyfannol rydym yn ei darparu i bobl ifanc.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch ni ar 01248 372083 neu e-bostiwch [email protected].