St Mary’s Hostel

Rydym yn darparu cefnogaeth i bobl bregus i fyw yn annibynnol a symud ymlaen i llety eu hunain.

Mae’r Santes Fair yn Hostel Mynediad Uniongyrchol sy’n darparu llety i 13 o bobl ddigartref mewn 2 o adeiladau ym Mangor ac fe’i rheolir gan dîm llawn o staff cymorth ar sail 24/7 awr.

Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i’r Santes Fair, ac os cewch eich derbyn byddwch yn cael cyflwyniad i’r Hostel ac esboniad o’ch Cytundeb Trwydded. Byddwn yn cwblhau asesiad a fydd yn ein helpu i ysgrifennu Cynllun Cefnogaeth wedi’i deilwra gyda chi sy’n cwrdd â’ch anghenion penodol ac yn ei adolygu a’i newid wrth i’ch anghenion newid. Bydd aelod o staff yn cyfarfod gyda chi i drafod a’ch helpu gyda’ch cynllun cefnogaeth.

Mae gan bawb ystafell wely sengl ac yn rhannu cyfleusterau ymolchi. Nid yw prydau bwyd yn cael eu darparu, ond mae yna gegin wedi’i dodrefnu’n llawn lle gallwch baratoi eich prydau eich hun.

Byddwn yn:

  • Eich helpu i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol da, fel siopa, coginio a glanhau;
  • Eich helpu i ddod yn hyderus wrth reoli eich arian drwy gyllidebu
  • Eich cefnogi i gael mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol
  • Eich cefnogi i gysylltu â sefydliadau perthnasol eraill am gymorth a chyngor
  • Eich cefnogi i gael mynediad at addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddol
  • Eich cefnogi i ddod yn rhan o gymuned ehangach
  • Eich cefnogi i lenwi ffurflenni cais am dai a chysylltu â landlordiaid a hosteli
  • Eich cefnogi a’ch paratoi i symud ymlaen i’ch llety eich hun
  • Eich cefnogi wrth sefydlu eich cyflenwadau nwy/trydan)
  • Cefnogaeth 24 awr 7 diwrnod yr wythnos

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth ffoniwch ni ar 01248 362211 neu anfonwch ebost atom yn [email protected].

Mae hostel Santes Fair ym Mangor hefyd yn cynnig gwasanaeth giât, gan gynnig bwyd, diod, dillad, pebyll a sachau cysgu yn ddyddiol i’r rhai sy’n ddigartref ar y stryd ym Mangor.