Rydym yn eich cefnogi i ddod o hyd i lety mwy parhaol
Mae ein Hostel Noddfa ym Mae Colwyn yn darparu llety â chymorth dros dro i bobl ddigartref sengl a theuluoedd sy’n agored i niwed ac sydd angen cymorth. Byddwch yn gallu aros yn yr hostel am tua naw mis, efallai mwy, tra byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i rywle mwy parhaol i fyw.
Ein cam cyntaf yw egluro’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig ac yna, os byddwch yn penderfynu bod Noddfa yn iawn i chi, caiff eich cais ei asesu gan Gyfarfod Panel Amlasiantaeth. Os byddwn yn eich derbyn, byddwch yn cael cyflwyniad i’r Hostel ac esboniad o’ch Cytundeb Trwydded. Byddwn yn cynnal asesiad a fydd yn ein helpu i ysgrifennu Cynllun Cefnogaeth wedi’i deilwra a sy’n cwrdd â’ch anghenion penodol a bydd aelod o staff yn cyfarfod gyda chi i drafod eich anghenion cefnogaeth.
Byddwn yn:
- Eich helpu i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol da, fel siopa, coginio a glanhau;
- Eich helpu i ddod yn hyderus wrth reoli eich arian drwy gyllidebu
- Eich cefnogi i gael mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol
- Eich cefnogi i gysylltu â sefydliadau perthnasol eraill am gymorth a chyngor
- Eich cefnogi i gael mynediad at addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddol
- Eich cefnogi i ddod yn rhan o gymuned ehangach
- Eich cefnogi i lenwi ffurflenni cais am dai a chysylltu â landlordiaid a hosteli
- Eich cefnogi a’ch paratoi i symud ymlaen i’ch llety eich hun
- Eich cefnogi wrth sefydlu eich cyflenwadau nwy/trydan)
- Cefnogaeth 24 awr 7 diwrnod yr wythnos
Byddwn yn cyflenwi ein gwasanaethau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; byddwn yn darparu mynediad cyfartal a theg i bawb; byddwn yn rhoi gwybodaeth lawn am yr hyn rydym yn ei wneud; byddwn yn esbonio eich hawliau a’ch cyfrifoldebau i chi; byddwn yn eich trin â pharch a byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym yn onest beth yw eich barn am yr hyn rydym yn ei wneud.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth ffoniwch ni ar Conwy: 01492 533574 neu anfonwch ebost atom yn [email protected]