Pendinas Hostel

Rydym yn darparu Cefnogaeth i bobl bregus i fys yn annibynnol a symud ymlaen i llety eu hunain.

Mae Hostel Pendinas ym Mangor yn darparu cefnogaeth a llety i wyth o bobl ddigartref sy’n fregus a gyda anghenion cymhleth.

Os ydych yn cael eich cefnogi gan sefydliad arall, gallwch ofyn iddynt eich cyfeirio at Pendinas. Caiff eich cais ei asesu gan Banel Amlasiantaeth. Os ydych yn addas i dderbyn gwasanaeth, byddwch yn cael cyflwyniad i’r Hostel ac esboniad o’ch Cytundeb Trwydded. Byddwn yn cwblhau asesiad a fydd yn ein helpu i ysgrifennu Cynllun Cefnogaeth wedi’i deilwra gyda chi sy’n cwrdd â’ch anghenion penodol ac yn ei adolygu a’i newid wrth i’ch anghenion newid. Bydd aelod o staff yn cyfarfod gyda chi i drafod a’ch helpu gyda’ch cynllun cefnogaeth.

Mae gan bawb ystafell wely sengl ac maent yn rhannu cyfleusterau ymolchi. Nid yw prydau bwyd yn cael eu darparu, ond mae yna gegin wedi’i dodrefnu’n llawn lle gallwch baratoi eich prydau eich hun.

Byddwn yn:

  • Eich helpu i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol da, fel siopa, coginio a glanhau;
  • Eich helpu i ddod yn hyderus wrth reoli eicharian drwy gyllidebu
  • Eich cefnogi i gael mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol
  • Eich cefnogi i gysylltu â sefydliadau perthnasol eraill am gymorth a chyngor
  • Eich cefnogi i gael mynediad at addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddol
  • Eich cefnogi i ddod yn rhan o gymuned ehangach
  • Eich cefnogi i lenwi ffurflenni cais am dai a chysylltu â landlordiaid a hosteli
  • Eich cefnogi a’ch paratoi i symud ymlaen i’ch llety eich hun
  • Eich cefnogi wrth sefydlu eich cyflenwadau nwy/trydan
  • Cefnogaeth 24 awr 7 diwrnod yr wythnos

Rydym yn cyflenwi ein gwasanaethau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; rydym yn darparu mynediad cyfartal a theg i bawb; rydym yn rhoi gwybodaeth lawn am y gefnogaeth rydym yn ei gynnig. Byddwn yn esbonio eich hawliau a’ch cyfrifoldebau i chi yn ogystal â’n hawliau a’n cyfrifoldebau ni; ac rydym yn ymroddedig i’ch trin â pharch gan werthfawrogi unrhyw adborth sydd gennych am unrhyw agwedd o’n gwasanaethau.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch ni ar 01248 372083 neu anfonwch ebost atom yn [email protected]