Rhentu i Berchnogi – Cymru

**Mae hwn bellach ar gau i ddatblygiadau newydd**

Mae cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru yn helpu pobl i brynu cartref pan nad oes digon o gyllid ganddynt i gyfrannu at flaendal morgais. Mae’r cynllun yn helpu tenantiaid mewn eiddo rhent sy’n rhan o’r cynllun i gynilo cyfandaliad tuag at flaendal tra byddant yn rhentu eu cartref. Yna, gall y cyfandaliad tuag at flaendal gael ei ddefnyddio i sicrhau morgais er mwyn prynu cartref.

Sut mae’n gweithio

O ran Rhentu i Berchnogi – Cymru:

  • cewch gyfle i brynu’r cartref yr ydych yn ei rentu a gallwch gynilo cyfandaliad i gyfrannu at flaendal morgais tra byddwch yn rhentu’r cartref
  • byddwch yn rhentu’r cartref yn y lle cyntaf, a gallwch gael 25% o’r rhent a dalwyd gennych dros gyfnod y denantiaeth, a 50% o’r cynnydd yng ngwerth yr eiddo (os bydd cynnydd) yn ystod y cyfnod y byddwch yn rhentu’r eiddo – i’w defnyddio fel blaendal i gyfrannu at brynu’r eiddo
  • bydd eich cytundeb ar gyfer cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru yn para am bum mlynedd. Gallwch wneud cais i brynu eich cartref unrhyw bryd rhwng diwedd yr ail flwyddyn a diwedd y cytundeb.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Rhentu i Berchnogi – Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru yma https://llyw.cymru/rhentu-i-berchnogi-cymru.