
Beth yw Safon Ansawdd Tai Cymru?
Ym mis Hydref 2023, cyflwynodd Llywodraeth Cymru safonau newydd ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru, gan sicrhau bod preswylwyr yn gallu cael mynediad at gartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion y presennol a’r dyfodol.
Sut gallaf gymryd rhan?
Mae eich cyfranogiad yn allweddol i’r safonau newydd hyn. Cyn bo hir byddwn yn rhannu ffyrdd i chi gael dweud eich dweud, boed hynny drwy sesiynau adborth, trafodaethau cymunedol, neu fentrau eraill. Cadwch lygad am fwy o fanylion ar sut y gallwch chi gymryd rhan!
Beth yw’r dyddiadau cau?
Erbyn 31 Mawrth 2025:
• Asesu cyflwr y cartref a nodi gwelliannau angenrheidiol.
• Datblygu cynllun a chyllideb i gwrdd â safonau newydd.
• Ymgysylltu â phreswylwyr i rannu cynlluniau a chasglu adborth.
Erbyn 31 Mawrth 2027:
• Creu Llwybr Ynni wedi’i Dargedu (TEP) i wella effeithlonrwydd ynni cartref.
Erbyn 31 Mawrth 2030:
• Sicrhau bod pob cartref yn cyrraedd o leiaf sgôr EPC o ‘C’, gydag inswleiddiad priodol.
Erbyn 31 Mawrth 2034:
• Cyflawni cydymffurfiaeth lawn â safonau SATC 2023.
Ble gallaf ddod o hyd i ragor o wybodaeth?
Am fwy o wybodaeth, ewch i: