Canllawiau Diogelwch Tân i Breswylwyr

Mae proffil risg eich adeilad yn gofyn am bolisi gwacau cydamserol. Mewn achos tân, eich prif swyddogaeth yw gwacáu yn ddiogel.

RHAGOFALON BOB DYDD

— Prawf larwm tân yn rheolaidd (unwaith yr wythnos).

— Cadw coridorau a chynteddau yn glir, yn enwedig o eitemau sy’n llosgi’n hawdd.

— Defnyddiwch system wresogi a osodwyd yn y cartref. Os nad yw ar gael, dim ond gwresogyddion  darfudol ddylid eu defnyddio mewn coridorau a chynteddau.  Gwaharddir yn llym defnydd o gwresogyddion pelydrol.

— Peidiwch â storio dim byd yn y cypyrddau sy’n cynnwys mesuryddion  nwy a trydan.

— Peidiwch byth â rhwystro llwybrau mynediad yr adeilad neu ardaloedd cyffredin.

— Peidiwch â storio na  gwefru dyfeisiau trydanol mewn gofod sydd yn cael ei rannu.

OS YW TÂN YN CYCHWYN YN EICH CARTREF

— Gadewch yr ystafell lle gychwynodd y tân yn syth, gan fynd a pawb arall gyda chi. Caewch ddrws yr ystafell.

— Rhybuddiwch bawb yn eich cartref ac arwain nhw allan. Caewch y drws blaen wrth i chi adael.

— Wrth i chi adael, gweithredwch y larwm tân mewn man torri gwydr.

— Defnyddiwch y grisiau bob amser, nid y lifft, yn ystod tân.

—Dim ond os ydynt yn rhan o’r llwybr dianc y dylid defnyddio balconiau.

— Ffoniwch y Gwasanaeth Tân ac Achub yn syth.

— Peidiwch â dychwelyd i’r adeilad cyn cael cadarnhad ei fod yn ddiogel i wneud hynny

OS YW TÂN YN DIGWYDD YN YR ADEILAD

—Seiniwch y larwm  tân yn y man torri gwydr agosaf.

— Gadewch yr adeilad gan ddefnyddio’r allanfa ddiogel agosaf.

—  Osgowch ddefnyddio lifftiau a balconïau oni bai eu bod yn rhan o’r llwybr dianc.

— Ffoniwch y Gwasanaeth Tân ac Achub yn syth.

— Peidiwch â dychwelyd i’r adeilad cyn cael cadarnhad ei fod yn ddiogel i wneud hynny

CYSYLLTU Â’R GWASANAETH TÂN AC ACHUB

Ffoniwch y Gwasanaeth Tân ac Achub bob amser, hyd yn oed am danau bach.

GWEITHDREFN FFONIO’R GWASANAETH TÂN AC ACHUB

Deialu 999, Rhowch eich rhif a gofynnwch am y GWASANAETHAU TÂN.

Rhowch leoliad manwl y tân, Cadarnhewch y cyfeiriad pan fydd y gweithredydd yn ei ailadrodd yn ôl i chi. Mae hyn yn sicrhau y gall y gwasanaeth eich lleoli yn gyflym.