Diogelwch coed

Mae coed yn gwneud cyfraniad sylweddol i’n cymdogaethau a’n hamgylchedd. Felly mae’n bwysig ein bod ni’n gofalu am goed a’u cadw mewn cyflwr diogel.

Ein cyfrifoldeb am reoli coed

Fel eich landlord rydym yn gyfrifol am reoli a chynnal a chadw coed sy’n tyfu ar ein tir.

Rydym yn blaenoriaethu ceisiadau am waith coed yn seiliedig ar y meini prawf canlynol:

BYDDWN yn tocio neu’n tynnu coed sydd:

  • Wedi marw, yn afiach neu’n marw
  • Yn beryglus (h.y. oherwydd difrod storm)
  • Yn achosi difrod, neu’n debygol o achosi difrod, i eiddo
  • Yn torri Rheoliadau Priffyrdd
  • Wedi’u hadnabod fel rhan o’n rhaglen cynnal a chadw

NI FYDDWN yn tocio nac yn tynnu coed sy’n:

  • Blocio golau haul
  • Ymyrryd â signal teledu neu ffôn
  • Rhwystro golygfeydd
  • Ymyrryd â llystyfiant preifat
  • Achosi materion tymhorol (h.y. sudd yn diferu, mêl-gawod, baw adar, dail yn cwympo, ac ati)

Adrodd am fater coed

I roi gwybod am fater coed, cysylltwch â ni ar [email protected].

PEIDIWCH â cheisio delio ag unrhyw goed sydd wedi’u difrodi eich hun. Mae llawer o’n coed yn cael eu gwarchod ac mae’n drosedd eu tocio neu eu tynnu heb gydsyniad cyfreithiol yr awdurdod lleol