Siarter Cwsmeriaid 2024

Yn Tai Gogledd Cymru, rydym wedi ymrwymo i roi ein cwsmeriaid wrth wraidd popeth a wnawn a darparu lefel uchel o wasanaeth i gwsmeriaid. Rydym am sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth rhagorol i’n holl gwsmeriaid, a’n bod yn cynnal lefelau uchel o berfformiad ar draws ein gwasanaethau.


Yn ystod ein 50fed flwyddyn yn y maes tai rydym wedi ymrwymo i sicrhau y dylai unrhyw un sy’n cysylltu â ni ddisgwyl a derbyn safon uchel o wasanaeth i gwsmeriaid. Gall cwsmeriaid gysylltu â ni trwy amrywiaeth o sianeli, sydd wedi’u hamlinellu yn y Siarter hon.