Cae Garnedd, Bangor
Penrhosgarnedd, Bangor , Gwynedd, LL57 2NH, United Kingdom
Nodweddion Allweddol
- Cegin wedi’i gosod yn llawn, ystafell ymolchi a lolfa
- Cawod mynediad gwastad
- Hygyrch i gadeiriau olwyn
- System mynediad drws diogel
- Gofal a chefnogaeth sydd ar gael 24 awr
- Mannau cymunedol - nifer o lolfeydd preifat, ystafell fwyta/bwyty, ardal patio allanol
Disgrifiad Llawn
Cae Garnedd, Penrhosgarnedd, Bangor yw trydydd cynllun Gofal Ychwanegol Tai Gogledd Cymru, ein cynllun cyntaf o’r fath yng Ngwynedd mewn partneriaeth gyda Chyngor Gwynedd.
Mae’r cynllun wedi’i anelu at bobl sydd dros 55 oed ac sydd ag anghenion tai a gofal. Mae’n gyfle gwych i gael budd o ffordd o fyw annibynnol a diogel, wedi’i ategu gan ofal a chymorth sy’n hyblyg ac wedi’i deilwra at eich anghenion.
Fflatiau o ansawdd, wedi’u cynllunio’n dda
Mae Cae Garnedd wedi’i adeiladu i ddyluniad cyfoes o ansawdd eithriadol a safonau cynaliadwyedd uchel. Mae 42 o fflatiau hunangynhwysol gyda 2 ac 1 ystafell wely. Mae wedi’i gynllunio er mwyn eich galluogi i barhau i fyw’n annibynnol yn eich cartref eich hun ac i wneud bywyd yn haws.
Dyma rai o’r cyfleusterau:
- Cegin wedi’i gosod yn llawn, ystafell ymolchi a lolfa
- Cawod mynediad gwastad
- Lifftiau
- Hygyrch i gadeiriau olwyn
- System mynediad drws diogel
- Digonedd o ofod parcio ceir
- Gofal a chefnogaeth sydd ar gael 24 awr
- Mannau cymunedol – nifer o lolfeydd preifat, ystafell fwyta/bwyty, ardal patio allanol
Fideo Cae Garnedd
Gwyliwch y fideo yma i glywed beth mae preswylwyr yn feddwl o Cae Garnedd:
Mae hyblygrwydd llwyr o ran y gofal a ddarparwn. Rydym yn annog preswylwyr i fyw bywyd llawn a gweithgar a bydd cynllun personol o ofal a chymorth, pe bai ei angen, yn cael ei deilwra i’ch helpu i fyw mor annibynnol â phosibl yn y ffordd a ddymunwch. Mae’r tîm gofal profiadol ar y safle 24 awr y dydd ac mae cyswllt larwm cymunedol gyda chefnogaeth 24 awr hefyd ar gael.
Ffordd o Fyw
Mae gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden yn bwysig iawn i les pawb. Yng Nghae Garnedd, mae yna amrywiaeth trawiadol o gyfleusterau i’w mwynhau, a rhaglen reolaidd o ddigwyddiadau sy’n darparu ar gyfer amrywiaeth o ddiddordebau.
Mae’r datblygiad hefyd yn cynnig:
- Salon gwallt
- Ystafell ymolchi gyda chymorth ac ystafell maldod
- Ystafell golchi dillad
- Ystafell wely gwadd ar gyfer teulu a ffrindiau
- Storfa Sgwteri
Bydd y cynllun hyfryd yma’n darparu amgylchedd gwych i wneud ffrindiau newydd, croesawu eich teulu a’ch ffrindiau, neu i ymlacio a mwynhau eich amgylchedd.
Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPCs)
Dim EPC ar gaelCynllun Llawr
Dim cynllun llawr ar gaelSut i wneud cais
Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach am Cae Garnedd neu os hoffech drefnu ymweliad, cysylltwch â ni ar 01492 572 727.
Fel arall, gallwch gysylltu â Debbiw Thomas, Rheolwr Cynllun Gofal Ychwanegol Cae Garnedd yn uniongyrchol ar 01248 361611 neu [email protected].