Cwrt Taverners, Llandudno
Lloyd Street West, Llandudno, Conwy, LL30 2DB
Nodweddion Allweddol
- Agos at y traeth a’r cyfleusterau lleol
- Chysylltiadau cludiant gwych
- Hunangynhwysol ac yn cynnwys cegin gydag unedau wedi’u ffitio’n llawn, ystafell ymolchi, Ystafell wely a lolfa
- Lifft,
- Maes parcio ar y safle
- Lolfa gymunedol
- Gardd ac ardal batio
- Ystafell wely ar gyfer ymweliad gan ffrindiau a theulu
- Warden profiadol Llun – Gwener
- Larwm argyfwng 24 awr a system mynediad trwy ddrws diogel
Disgrifiad Llawn
Mae Cwrt Taverners yn cynnig 31 fflat un a dwy ystafell wely i’w rhentu i bobl 55 oed neu’n hŷn yn ardal Pen Morfa yn Llandudno.
Mae mewn ardal brydferth yn agos at y traeth a’r cyfleusterau lleol, gyda chysylltiadau cludiant gwych hefyd; bydd taith fer mewn car neu fws yn eich cludo i ganol tref Llandudno sydd â gweithgareddau hamdden a chyfleusterau siopa gwych.
Mae pob fflat yn hunangynhwysol ac yn cynnwys cegin gydag unedau wedi’u ffitio’n llawn, ystafell ymolchi, ystafell wely a lolfa. Mae gan y cynllun lifft, maes parcio ar y safle, lolfa gymunedol, gardd ac ardal batio y gall y trigolion eu mwynhau. Mae gan bob fflat ffenestri gwydr dwbl a gwres trwy stôr-wresogyddion trydanol.
Mae ystafell westeion gyfleus ar gael am dâl bychan ar gyfer ymweliad gan ffrindiau a theulu.
Cefnogir pob eiddo ar ddiwrnodau’r wythnos gan Warden profiadol a all gynnig help llaw a chefnogaeth pan fydd arnoch ei angen. Cefnogir ein holl eiddo hefyd gan larwm argyfwng 24 awr a system mynediad trwy ddrws diogel.
Cynigir gweithgareddau cymdeithasol dewisol hefyd, sy’n rhoi’r cyfle i chi fwynhau hobïau newydd neu rai sydd gennych yn barod a chymdeithasu.
Taith arlein
Ewch ar daith o Cwrt Taverners eich hun trwy glicio yma https://360.ht/iframe/2UJMGWB
Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPCs)
Dim EPC ar gaelCynllun Llawr
Dim cynllun llawr ar gaelSut i wneud cais
Os hoffech unrhyw wybodaeth arall am Taverners Court neu unrhyw un o’n heiddo eraill i bobl 55 oed neu’n hŷn, cysylltwch â ni ar 01492 572 727.
Fel arall, cysylltu hefo Rowena Maxwell, Swyddog Tai Pobl Hyn [email protected] 01492 563274.