Y Gorlan, Bangor

Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd, LL57 1NS


Nodweddion Allweddol

  • Fflatiau un ystafell wely hunangynhwysol hawdd i'w rheoli
  • wedi’i leoli yn ganolog, yn gyfleus ar gyfer yr holl amwynderau
  • Fflat yn hunangynhwysol ac yn cynnwys cegin gydag unedau gosod cyflawn, ystafell ymolchi, ystafell wely a lolfa
  • Lifft
  • Maes parcio ar y safle
  • Lolfa gymunedol a gardd
  • Ystafell golchi dillad
  • Chyfleuster salon trin gwallt
  • Ystafell wely ar gyfer ymweliad gan ffrindiau a theulu
  • Warden profiadol Llun – Gwener
  • Larwm argyfwng 24 awr a system mynediad trwy ddrws diogel


Disgrifiad Llawn

Wedi’i leoli o fewn dinas Bangor, mae Y Gorlan yn cynnig 31 o fflatiau un ystafell wely hunangynhwysol hawdd i’w rheoli, ac maent ar gael i’w rhentu i rai sydd dros 60 oed.

Mae wedi’i leoli yn ganolog, yn gyfleus ar gyfer yr holl amwynderau, siopau, cyfleusterau gofal iechyd, cludiant cyhoeddus a gweithgareddau hamdden , gan ei wneud yn ddewis delfrydol ar gyfer byw’n annibynnol.

Mae pob fflat yn hunangynhwysol ac yn cynnwys cegin gydag unedau gosod cyflawn, ystafell ymolchi, ystafell wely a lolfa. Mae’r cynllun yn elwa o lifft, maes parcio ar y safle, lolfa gymunedol, gardd, ystafell golchi dillad a chyfleuster salon trin gwallt.

Mae yna hefyd ystafell hwylus i ffrindiau a theulu sy’n ymweld ac sydd ar gael am dâl bychan.

Caiff pob eiddo ei gefnogi yn ystod yr wythnos gan Warden profiadol sy’n gallu cynnig help llaw a chefnogaeth i helpu pan fyddwch ei angen. Mae pob un o’n tai hefyd yn cael eu cefnogi gan larwm argyfwng 24 awr a system mynediad drws diogel.

Mae gweithgareddau cymdeithasol dewisol hefyd yn cael eu cynnig, gan roi cyfle i chi fwynhau hobïau newydd neu i gymdeithasu.

Taith arlein

Ewch ar daith o’r Gorlan eich hun trwy glicio yma https://360.ht/iframe/Y1UT6Z0


Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPCs)

Dim EPC ar gael

Cynllun Llawr

Dim cynllun llawr ar gael

Sut i wneud cais

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach am Y Gorlan neu unrhyw un o'n heiddo eraill ar gyfer rhai dros 55 oed, cysylltwch â ni ar 01492 572 727.

Fel arall, cysylltu hefo Rowena Maxwell, Swyddog Tai Pobl Hyn [email protected] 01492 563274.