Beth sydd angen i chi ei wybod
Mae Tai Gogledd Cymru yn ymwybodol bod Cwmnïau Hawlio Diffyg Gwaith Atgyweirio yn cysylltu â rhai o’n preswylwyr sydd eisiau mynediad i’ch eiddo. Byddant yn dweud wrthych fod angen gwneud gwaith atgyweirio yn eich cartref ac yn eich annog i gyflwyno hawliad yn erbyn Tai Gogledd Cymru, ond heb eich hysbysu o’r holl risgiau sydd yn gysylltiedig â hynny.
Beth yw diffyg gwaith atgyweirio?
Diffyg atgyweirio yw pan fyddwn wedi methu ag atgyweirio gwaith sy’n gyfrifoldeb i ni ar ôl i chi ein hysbysu yn unol â thelerau eich cytundeb tenantiaeth.
Byddwch yn ymwybodol
Mae’r cwmnïau hyn eisiau gwneud arian ohonoch chi. Mae un o’n preswylwyr a aeth i’r llys wedi mynd o obeithio y bydd yn cael arian mawr i wynebu bod mewn miloedd o bunnoedd o ddyled.
Mae Tai Gogledd Cymru eisiau codi ymwybyddiaeth ymhlith preswylwyr, rydym am eich amddiffyn rhag wynebu hyn a rhoi gwybod i chi beth sy’n digwydd os ydych chi’n gwneud hawliad a sut mae’r hawliad hwnnw’n effeithio arnom ni.
Beth sydd angen i chi ei wybod
Mae cwmnïau hawlio diffyg agwaith tgyweirio yn defnyddio cynllun cyfreithiol a gyflwynwyd i amddiffyn tenantiaid rhag landlordiaid gwael. Mae’r cwmnïau hyn eisiau gwneud arian allan ohonoch chi a’ch cartref, ac mae angen i chi wybod y ffeithiau rhag ofn iddyn nhw gysylltu â chi.
Gall hawliadau diffyg gwaith atgyweirio gymryd hyd at ddwy flynedd i’w datrys ac mae hyn yn debygol iawn o achosi anghyfleustra i chi.
Mae’n gyffredin i gyfreithiwr Diffyg Gwaith Atgyweirio sy’n ‘gweithredu’ ar eich rhan eich cynghori i beidio â chaniatáu i Tai Gogledd Cymru wneud unrhyw waith atgyweirio tra bo’r hawliad yn parhau. Fel eich landlordiaid, rydym am gwblhau gwaith atgyweirio yn eich cartref a byddwn yn ceisio gwneud hyn. Gallai methu â rhoi mynediad i ni wanhau eich achos. Lle mae iechyd a diogelwch mewn perygl, byddwn yn gorfodi ein hawl i fynd i mewn i archwilio eiddo gyda gwaharddeb llys.
Cofiwch, rydym am weithio gyda chi fel ein preswylydd a darparu cartrefi diogel sydd wedi’u cynnal a’u cadw’n dda.
Ar ôl i chi gyflwyno hawliad a llofnodi dogfennau gan gyfreithiwr, mae’n annhebygol iawn y bydd y cyfreithiwr yn caniatáu i chi newid eich meddwl ac atal yr hawliad. Mi fyddan nhw’n eich cynghori, os ydych am atal yr hawliad, y byddwch yn atebol am y canlynol:
- Taliadau am yr arolwg y maen nhw wedi’i drefnu, a all fod hyd at £1,000
- Taliadau cytundeb credyd o dros £500 ar gyfer “dim ennill, dim ffi’ i dalu am yswiriant cost gyfreithiol.
Os bydd yr achos yn mynd i’r llys ac yn cael ei wrthod, bydd y costau cyfreithiol yn cael ei rhoi arnoch chi fel Dyfarniad Llys Sirol (DLlSJ). Mae’n gyffredin bod Cyfreithwyr Diffyg gwaith Atgyweirio yn methu â’ch cynghori am y risg yma.
Gall unrhyw gytundeb gyda’r cwmnïau hyn eich rhoi mewn perygl ariannol.
Beth fydd yn digwydd os byddwch chi’n hawlio am ddiffyg gwaith atgyweirio?
Bydd syrfëwr sy’n gweithio ar ran Tai Gogledd Cymru yn ymweld â’ch cartref i wneud arolwg. Bydd hyn yn gwirio am unrhyw waith atgyweirio sydd ei angen ac yn tynnu sylw at unrhyw beth sydd angen ei wneud.
Yn dilyn yr arolwg, os nodwyd mai ein cyfrifoldeb ni yw unrhyw waith, byddwn yn codi’r gorchymyn gwaith er mwyn cyflawni’r gwaith. Yn ogystal, byddwn yn gwirio bod y gorchmynion atgyweirio hyn wedi cael eu hadrodd i ni a’ch bod wedi defnyddio’r broses gwynion yn unol â’r cytundeb tenantiaeth. Os nad ydych wedi gwneud hynny, fel rheol byddwn yn amddiffyn yr hawliad ar y sail nad oes unrhyw ddiffyg gwaith atgyweirio wedi digwydd.
Yn y Llys, bydd syrfewyr Tai Gogledd Cymru yn cael eu hystyried fel tystion arbenigol; mae hyn yn golygu bod ganddyn nhw ddyletswydd i’r llys hefyd.
Bydd ein syrfëwr hefyd yn gwirio a oes angen i ni godi tâl arnoch am unrhyw ddifrod i eiddo yn ystod eich tenantiaeth. Bydd angen i chi roi mynediad i ni i’ch cartref er mwyn cynnal arolwg os byddwch yn gwneud unrhyw hawliad yn ein herbyn.
Sut mae hawliadau Diffyg Gwaith Atgyweirio yn effeithio arnom ni
Mae hawliad diffyg gwaith atgyweirio yn hynod gostus i ni gyda golwg ar fynd i’r llys ac amddiffyn achosion, felly po fwyaf yr ydym yn ei wario i amddiffyn achosion, y lleiaf sydd gennym ar gyfer gwaith atgyweirio, gwelliannau a gwasanaethau eraill. Dylech wybod y byddwn yn amddiffyn yn gryf unrhyw achos gaiff ei ddwyn yn ein herbyn a byddwn yn delio â hawliadau diffyg atgyweirioyn brydlon.
Gwybodaeth bellach
Os ydych chi’n teimlo bod gennych chi waith atgyweirio sydd angen eu gwneud yn eich cartref, mae’n ddyletswydd arnoch o dan y cytundeb tenantiaeth i roi gwybod i ni amdanyn nhw. Os ydych chi’n anhapus â gwaith cynnal a chadw eich cartref neu’r gwasanaethau atgyweirio rydyn ni’n eu darparu ar unrhyw adeg, yna dylech gysylltu â ni yn y lle cyntaf er mwyn i ni eich cefnogi.
Os oes angen i chi logio gwaith atgyweirio newydd, os oes gennych unrhyw bryderon neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni ar 01492 572727.