Dyma rai adnoddau a allai eich helpu ar eich taith i ddysgu Cymraeg, neu eich cefnogi pan fydd ei angen arnoch.
Duo Lingo Gwefan
Argymhellir i ddysgwyr newydd er mwyn cael cysylltiad â’r iaith a dysgu’r pethau sylfaenol. Ap ar gael gyda mynediad at fforymau/digwyddiadau dysgwyr ar-lein a geiriadur.
Learnwelsh.cymru Gwefan
Gwych ar gyfer dysgwyr newydd neu i wella eich Cymraeg ar gyfer dysgwyr presennol, yn strwythuredig iawn ac yn gosod llwybr dysgu clir. Cyrsiau blasu, unedau i’w dilyn gyda chwestiynau amlddewis, dysgu rhyngweithiol.
Say Something in Welsh Gwefan
Offeryn ymarferol, strwythur syml, gwrando ac ailadrodd. Offeryn hyfforddi sain unigryw yn dysgu gair/brawddeg newydd bob dydd. Fforwm ar-lein i roi cefnogaeth a rhyngweithio â dysgwyr eraill
Gwrando ar radio, podlediadau ac ati yn Gymraeg Gwefan
Mae hwn yn cynnig podlediadau i Ddysgwyr Cymraeg. Mynediad at gynnwys wedi’i archifo a gellir ei lawrlwytho. Pytiau o fywyd go iawn
Dal Ati Gwefan
Mynediad i amrywiaeth o raglenni Cymraeg gan gynnwys rhai ag is-deitlau.