Dyma’r sector Tai

Mae tai cymdeithasol yn sector deinamig ac uchelgeisiol gyda chyfleoedd gyrfa gwych. Mae Cartrefi Cymunedol Cymu, gyda cymorth cymdeithasau tai, wedi lansio ymgyrch ‘Dyma’r sector Tai’ i ddathlu hyn.

Cafodd yr ymgyrch hon ei chreu i ddweud stori sut beth yw gweithio yn y sector a’r ystod swyddi sydd ar gael.

Rydym yn falch iawn ein bod wedi llofnodi addewid Dymar Sector Tai. Oherwydd ein bod yn credu bod gyrfa ym maes tai yn rhoi llawer o foddhad ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau llawer o bobl. Gyda’n gilydd rydym am roi llais i’r sector a hyrwyddo ehangder o swyddi sydd ar gael #DymarSectorTai

Ewch i’r gwefan https://thisishousing.wales/cy/catref/ i glywed sut rai yw’r gyrfaoedd go iawn gan y bobl sy’n gweithio yn y sector tai, dysgu’r hyn rydych ei angen i gael yr yrfa a ddymunwch a’r ffyrdd gorau i wneud cais am swyddi mewn tai cymdeithasol, canfod beth mae cymdeithasau tai yn ei wneud a ble maent yn seiliedig.