Iechyd a lles yn y gwaith

Rydym yn treulio llawer o amser yn y gwaith, sy’n golygu yn anochel y gall ein hamgylchedd gwaith chwarae rhan fawr yn ein hiechyd a’n lles. Ynghyd â straen, anafiadau cyhyrysgerbydol a chyflyrau meddygol acíwt, mae afiechyd meddwl yn fwyfwy cyffredin fel achos absenoldeb tymor byr a thymor hir.

Rydym yn derbyn ein bod yn chwarae rhan yn iechyd a lles ein Pobl ac yn ceisio gwneud cymaint ag y gallwn i helpu a chefnogi iechyd a lles yn y gwaith.

CALON

Yn 2020 mi wnaethon ni lansio CALON, rhaglen sy’n cael ei rhedeg gan Hyrwyddwyr Iechyd a Lles brwd TGC sy’n gyfrifol am fentrau fel clybiau cerdded, cyflwyno ffrwythau ym mhob swyddfa/cynllun, hyrwyddo amrywiol fentrau iechyd gwladol a chystadlaethau hwyliog fel y pwmpenni cerfiedig gorau adeg Calan Gaeaf a’r man gwaith sydd wedi’i addurno orau adeg y Nadolig.

Arwyddo addewid ‘Amser i Newid’

Fe wnaethon ni lofnodi’r addewid Amser i Newid ym mis Hydref 2020, gan ddangos ein hymrwymiad i greu man gwaith yn rhydd o stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu, ac i newid y ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn gweithredu am iechyd meddwl yn y gwaith.

Iechyd a lles yn ganolog i ni

Un o’r nodau yn ein Strategaeth Pobl yw cefnogi gwelliannau ar gyfer gweithlu iach sy’n ymgysylltu’n dda. Rydym hefyd wedi datblygu polisi Iechyd a Lles Gweithwyr ac mae gennym rwymedigaethau cyfreithiol o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch i reoli risgiau i iechyd a diogelwch gweithwyr.

Darparu hyfforddiant i gefnogi amgylchedd gwaith cadarnhaol

Mae pob Rheolwr, hyrwyddwr Iechyd a Lles a Chynorthwywyr Cymorth Cyntaf wedi cymryd rhan yn yr hyfforddiant ‘i-Act Hyrwyddo iechyd meddwl a lles cadarnhaol’. Mae hefyd yn orfodol bod yr holl staff yn cymryd rhan mewn cyrsiau ar-lein mewn ‘Ymwybyddiaeth Straen’, ‘Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl’ a hyfforddiant cyfle cyfartal fel ‘Ymwybyddiaeth Anabledd’.

Cynnig trefniadau gweithio hyblyg

Mae sicrhau cydbwysedd da yn eich bywyd a’ch gwaith yn hanfodol os ydych am aros yn fodlon. Dyma pam rydyn ni’n cynnig trefniadau gweithio hyblyg lle gallwn. Rydym hefyd yn y broses o gyflwyno gweithlu mwy ystwyth.

Gwneud yn siŵr bod gennych chi offer da

Gelir cynnal asesiad Offer Sgrin Arddangos ar unrhyw adeg, a darperir offer bwrdd gwaith a dodrefn addas i’r staff.

Gweithio’n agos gydag Iechyd Galwedigaethol

Maent yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu cynlluniau adsefydlu ar gyfer gweithwyr sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldebau sy’n gysylltiedig â salwch emosiynol neu gorfforol, ac yn gweithio gyda meddygon teulu a rheolwyr llinell ar gynllunio swyddi ac amgylcheddau gwaith i sicrhau bod adsefydlu’n llwyddiannus.

Cyfeirio at wasanaethau

Os na allwn ni helpu, rydym yn siŵr o adnabod rhywun sy’n gallu cynorthwyo. Mae gan bob aelod o staff fynediad at wasanaethau hunangyfeirio sefydliadau a rhaglenni allanol er mwyn eu helpu. Ymysg y sefydliadau yr ydym yn cyfeirio atynt yw RCS Cymru, Mynediad i Waith a Able Futures.

Cynnig Rhaglen Cymorth Cyflogwr

Rydym yn cynnig cynllun iechyd i’r holl staff. Mae’n caniatáu i chi hawlio arian yn ôl am apwyntiadau gofal iechyd bob dydd gyda’r deintydd, optegydd, ffisiotherapydd a cheiropractydd. Mae hefyd yn cynnwys sesiynau cwnsela wyneb yn wyneb, cyngor Cyfreithiol ac Iechyd a Lles 24/7 a Sgrinio Iechyd blynyddol

Gall staff hefyd gael mynediad at Aelodaeth Campfa Gorfforaethol ar gyfradd is trwy Gynghorau lleol ac rydym hefyd wedi cofrestru ar gyfer cynllun Beicio i’r Gwaith y llywodraeth.

Staff 1:1 dan arweiniad lles

Rydym yn annog ein staff i siarad yn agored am eu lles trwy gynnwys adran lles mewn dogfennaeth un i un er mwyn cynorthwyo trafodaethau mewn cyfarfodydd rheolaidd â rheolwyr llinell.

Wedi ymrwymo i gyfle cyfartal

Rydym yn falch o ddal y bathodyn ‘Cyflogwr’ Anabledd Hyderus sy’n dangos ein hymrwymiad parhaus i sicrhau bod pobl anabl yn cael eu cefnogi a’u trin yn deg trwy bob cam o recriwtio a chyflogaeth gyda Tai Gogledd Cymru.