Bore Coffi Mwya’r Byd Macmillan

Anghofiwch am y Great British Bake Off, mae’n amser Bore Coffi Mwya’r Byd Macmillan!

Bore Coffi Mwya’r Byd yw digwyddiad codi arian mwyaf Macmillan i bobl sy’n wynebu canser. Mae pobl ar hyd a lled y Deyrnas Unedig yn cynnal eu boreau coffi eu hunain gyda’r rhoddion ar y diwrnod yn mynd i Macmillan.

Mae nifer o breswylwyr TGC yn cynnal boreau coffi. Pob lwc i’r preswylwyr o  Cae Garnedd, Y Gorlan, Taverners Court a Hafod y Parc sydd am godi arian.

Categori Elusen
Lle? North Wales - Dangos Map
Dechrau 09:00 - Dydd Gwener 30 Medi, 2016
Gorffan 17:00 - Dydd Gwener 30 Medi, 2016