Dro fyny Mynydd Cwm
Am dro fyny Mynydd Cwm, yna cyfarfod Tîm Wal!
Dydd Sadwrn 12 Hydref – CROESO I BAWB!
Cyfarfod yn Ty Llywelyn, Am dro 11-1pm, Cyfarfod 1-2pm
Bydd yn anrhydedd pe gallech ymuno â ni am dro i fyny’r mynydd y tu ôl i’r ysbyty, i archwilio’r cynefin naturiol a cheisio ysbrydoliaeth ar gyfer dylunio’r gwaith celf ar gyfer y wal enfawr ar hyd Ffordd Maesdu. Byddwn yn dilyn hyn gyda chyfarfod cyflym i rannu sut mae’r prosiect yn mynd, ac i gynllunio ar gyfer y digwyddiadau nesaf! Bydd byrbrydau iach yn cael eu darparu, ond mae croeso i chi ddod â’ch cinio eich hun hefyd! A byddwch yn barod am dywydd o bob math!
Categori | Tenantiaid |
Lle? | Ty Llywelyn, Llandudno |
Dechrau | 11:00 - Dydd Sadwrn 12 Hydref, 2019 |
Gorffan | 14:00 - Dydd Sadwrn 12 Hydref, 2019 |