Dydd Gŵyl Dewi

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi mi wnaeth Tai Gogledd Cymru lansio cystadleuaeth i ddod o hyd i Sant Tai Gogledd Cymru!

Mi wnaethon ni ofyn i denantiaid a staff enwebu pwy yn eu barn nhw oedd yn deilwng o’r teitl. Pwy yn eu cymuned sydd wedi eu helpu neu wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol yn eu cymuned?

Mi wnaeth yr enwebiadau lifo i mewn ac ar ôl ystyriaeth ofalus gan y Grŵp Iaith Gymraeg, mi wnaethon ni dewis nid un Sant, ond tri o Seintiau! Yr enillwyr oedd:

• Janice Gough o’r Gorlan, Bangor;
• Michael Kedge o Penrhos Corner, Cyffordd Llandudno
• Jane O’Pray o’r Metropole, Bae Colwyn

Cyflwynwyd hamper o gynnyrch Cymreig i’r Seintiau buddugol fel ffordd o ddweud diolch wrthynt am eu cyfraniad anhygoel i’w cymuned.

Categori Elusen, Staff
Lle? Plas Blodwel, Broad Street, Llandudno Junction. Conwy LL31 9HL - Dangos Map
Dechrau 9:00 - Dydd Mawrth 1 Mawrth, 2016
Gorffan 17:00 - Dydd Mawrth 1 Mawrth, 2016