Trosglwyddo Siec i Ambiwlans Awyr Cymru

Mae ein helusen o ddewis ar gyfer 2015 – 2016 oedd Ambiwlans Awyr Cymru. Erbyn hyn mae’r flwyddyn wedi dod i ben ac rydan ni’n falch o gyhoeddi ein bod wedi codi £6,014.38!! Dyma ddwbl ein targed ac yn ddigon i dalu am 4 galwad gan Ambiwlans Awyr Cymru.

Rydym wedi casglu’r cyfanswm gwych yma trwy wneud pethau fel cerdded Marathon Gerdded Ynys Môn; beicio yn yr haf, clybiau brecwast, gwerthu raffl Access all Eirias; pacio bagiau yn Tesco; Staff yn defnyddio’u talentau i greu anrhegion i’w gwerthu fel planhigion, gwaith crosio a phasteiod banoffee.

Lle? Plas Blodwel, Broad Street, Llandudno Junction. Conwy LL31 9HL - Dangos Map
Dechrau 9:00 - Dydd Gwener 15 Ebrill, 2016
Gorffan 9:00 - Dydd Gwener 15 Ebrill, 2016