A chi yw ein Cadeirydd newydd?

Mae Tai Gogledd Cymru yn edrych tuag at y dyfodol, a gan fod Peter Gibson, ein Cadeirydd presennol yn camu i lawr o’r swydd yn ddiweddarach eleni, rydym yn chwilio am Gadeirydd newydd i ein Bwrdd Grŵp.

Rydym yn chwilio am Gadeirydd newydd sy’n meddu sgiliau arwain, ysgogiad ac uchelgais pendant ar gyfer Tai Gogledd Cymru, i arwain ein bwrdd cryf ac i weithio gyda mi fel Prif Weithredwr, er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein dyheadau.

Bydd y Cadeirydd Grŵp newydd yn cael dylanwad sylweddol ar y ffordd rydym yn cyflenwi’r cynllun hwn a’n cyfeiriad strategol.

Os yw hynny’n taro tant gyda chi ac os ydych yn rhannu ein huchelgais, yna hoffem glywed gennych. Am fwy o wybodaeth ar y swydd ac i lawr lwytho copi o’r pecyn recriwtio, ewch i dudalen y swydd yma. Dyddiad cau 19 Gorffennaf.