Amser i siarad ar gyfer staff TGC

Ym mis Hydref 2020, llofnododd Tai Gogledd Cymru Addewid Cyflogwr Amser i Newid Cymru, sy’n ymrwymiad i bawb ohonoch i newid sut rydyn ni’n meddwl ac yn gweithredu am iechyd meddwl ar bob lefel o’r sefydliad hwn.

Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus felly, mi wnaethon ni gefnogi Diwrnod Amser i Siarad ar ddydd Iau y 4ydd o Chwefror 2021, sef y diwrnod i gymell y genedl siarad am iechyd meddwl. Efallai bod digwyddiad eleni wedi edrych ychydig yn wahanol, ond ar adegau fel hyn mae sgyrsiau agored am iechyd meddwl yn bwysicach nag erioed.

Ar y diwrnod ei hun cynhaliodd y grŵp Iechyd a Lles sesiynau galw heibio rhithwir ‘Amser i siarad’ ar gyfer ​​staff, ac unig ddiben y sesiynau hyn oedd cyfle i gael sgwrs. Roedd yr ymateb yn anhygoel, gyda nifer o bobl yn galw i mewn i ddweud helo, a mwynhau sgwrsio â chydweithwyr nad oedden nhw efallai wedi’u gweld ers dechrau’r pandemig.

Dywedodd Helena Kirk, Prif Weithredwr TCG:

“Mae’n bwysig siarad a chodi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl. Bydd un o bob pedwar ohonom yn profi problem iechyd meddwl a dywed 9 o bob 10 eu bod wedi wynebu triniaeth negyddol gan bobl eraill o ganlyniad i hynny. Trwy ddewis bod yn agored am iechyd meddwl, rydyn ni i gyd yn rhan o fudiad sy’n newid y sgwrs ynghylch iechyd meddwl ac yn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei wneud i deimlo’n ynysig neu ar ei ben ei hun am fod â phroblem iechyd meddwl.

Rydyn ni’n gwybod po fwyaf o sgyrsiau rydyn ni’n eu cael, y mwyaf o fythau y gallwn eu chwalu a’r rhwystrau y gallwn eu symud, gan helpu i ddileu’r ymdeimlad o unigedd, cywilydd a bod yn ddi-werth y mae gormod ohonom â phroblemau iechyd meddwl yn cael eu gwneud i’w teimlo.”