Apwyntiadau wyneb yn wyneb nawr ar gael
Eisiau cyfarfod â’ch Swyddog Cymdogaeth? Eisiau cymorth a chyngor gan y tîm incwm? Gallwn nawr gynnig apwyntiadau o gysur eich cartref eich hun, neu o 14 Chwefror ‘22, yn ein Swyddfa Cyffordd Llandudno.
Bydd y Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid yn eich helpu i drefnu apwyntiad. Cysylltwch â nhw trwy e-bost Gwasanaethau Cwsmer neu ffoniwch 01492 572727 gyda’r wybodaeth ganlynol wrth law:
- Enw
- Cyfeiriad
- Rhif Ffôn
- Rheswm dros y cyfarfod
- Dyddiad ac amser addas
- Lleoliad a ffafrir