Arddangos gwaith celf gan blant ysgol gynradd mewn datblygiad yn Y Rhyl

Mi wnaeth Anwyl Construction, y contractwyr a benodwyd ar gyfer datblygiad tai cyffrous £1.4 miliwn yn Ffordd yr Abaty, Y Rhyl, drefnu cystadleuaeth ac mae’r gwaith celf bellach yn cael ei arddangos mewn lle amlwg ar y safle.

Trefnwyd y gystadleuaeth gwaith celf ar gyfer disgyblion Blwyddyn Pedwar Ysgol Bryn Hedydd ar ôl iddynt ymweld â’r safle fel rhan o’u prosiect Byd Gwaith.

Roedd safon y cynigion mor drawiadol o dda cafodd arwydd arbennig ei greu ac mae bellach yn cael ei arddangos mewn lle amlwg ar y safle, gan arddangos holl baentiadau ac enwau’r plant. Mi wnaeth dosbarthiadau Blwyddyn Pedwar a’u hathrawon ailymweld â safle Ffordd yr Abaty ar gyfer dadorchuddio’r arwydd ac er mwyn enillwyr y gystadleuaeth dderbyn eu gwobrau.

Cyflwynwyd y gwobrau gan y Rheolwr Masnachol, Simon Rose a ddywedodd:

“Diolch yn fawr i’r holl ddisgyblion am eu hymdrechion, mae’r gwaith celf yn rhagorol.”

“Roeddem yn meddwl bod safon y gwaith mor dda nes i ni benderfynu cydnabod hynny, felly rydym wedi rhoi enwau pawb a gymerodd ran i fyny ar yr arwydd a phan fydd y datblygiad wedi ei gwblhau byddwn yn ei drosglwyddo i’r ysgol.”

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru

“Mae’r datblygiad hwn ar gyfer cymuned y Rhyl ac mae’n rhan o waith adfywio Gorllewin y Rhyl, felly rydym yn hynod o falch o weld bod y plant wedi cymryd rhan. Hoffwn longyfarch pawb a gymerodd ran, ac yn arbennig y rhai a enillodd. Mae safon y gweithiau celf yn uchel tu hwnt, ac maent yn haeddu cael lle blaenllaw er mwyn i bawb eu gweld.”

Mae datblygiad newydd Afallon yn Ffordd yr Abaty yng nghanol ardal orllewinol y dref ac mae’n edrych dros fan gwyrdd Gerddi Heulwen a agorwyd y llynedd. Yr ysbrydoliaeth tu ôl i’r cynllun yw Tai Cydweithredol Gorllewin y Rhyl, sefydliad cydweithredol tai rhent trefol cyntaf Cymru, a ffurfiwyd gan Tai Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Gorllewin y Rhyl.

Bydd y datblygiad yn creu saith o gartrefi teuluol tair ystafell wely newydd gyda gerddi preifat a pharcio a bwriedir ailwampio hen adeiladau masnachol ar y llawr gwaelod gyda dau fflat un ystafell wely a dau fflat dwy ystafell wely uwchben.

Enillydd y gystadleuaeth oedd Heather Dawes, wyth oed, a ddywedodd:

“Roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n gwneud rhywbeth am wahanol sgiliau a gwaith yr adeiladwyr a sut fyddai’n edrych ar y diwedd.”

“Mi wnaethon ni drafod ac yna ei gynllunio i gyd ac roedd yn hwyl fawr, yn enwedig y lliwio i mewn a rŵan mae’n braf ei weld i fyny ar yr arwydd.”

Dywedodd Ceri Jones un o athrawon Blwyddyn Pedwar:

“Mae wedi bod yn brosiect ffantastig ac roedd yn gweithio’n dda iawn gyda’n wythnos Byd Gwaith pan oeddem yn edrych ar gyflogaeth a chyfleoedd i’r plant pan maent yn tyfu i fyny.”

Pan fydd y prosiect wedi ei gwblhau yn ystod yr haf bydd yr arwydd yn cael ei drosglwyddo i’r ysgol.