Arolwg Cyfranogiad Tenantiaid
Rydym yn datblygu Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid newydd a byddem yn gwerthfawrogi eich mewnbwn.
Cwblhewch yr arolwg hwn a chael eich cynnwys mewn cystadleuaeth gyda chyfle i ennill gwerth £50 o dalebau’r stryd fawr!!
https://www.surveymonkey.co.uk/r/73LFPS2
Beth yw Cyfranogiad Tenantiaid?
Mae cyfranogiad tenantiaid yn digwydd pan fydd landlordiaid cymdeithasol yn rhannu gwybodaeth, syniadau a gwneud penderfyniadau gyda thenantiaid gan weithio gyda nhw i gytuno ar y canlynol:
- sut y dylid rheoli eu cartrefi a’u hamgylchedd lleol
- pa wasanaethau a gwelliannau gwasanaeth sydd eu hangen
- blaenoriaethau
- sut y gallwn ni weithio gyda’n gilydd i gyflawni’r rhain