Buddugoliaeth Fawr i Lais Cymunedol Conwy

Mae cynllun ymgysylltu cymunedol sy’n cael ei gefnogi gan dair cymdeithas dai leol wedi ennill Gwobr ‘Cyfranogiad Tenantiaid’ genedlaethol a gyflwynwyd yng Nghaerdydd.

Bu Cartrefi Conwy, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Chymdeithas Tai Gogledd Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ers Mai 2013, fel rhan o brosiect ‘Conwy gyda’i Gilydd’ a’r wythnos ddiwethaf enillodd Llais Cymunedol Conwy’r wobr bwysig flynyddol am Gyfranogiad Tenantiaid yn cynnwys Cymru gyfan a ddyfarnwyd gan TPAS Cymru, y Gwasanaeth Cyfranogiad Tenantiaid a Chynghori.

Trefnir ‘Llais Cymunedol Conwy’ gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Conwy ac mae’n cael ei ariannu gan y Loteri Fawr.

Dan y cynllun mae’r tair cymdeithas dai wedi gweithio gyda’i gilydd i gynnig amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ennyn diddordeb preswylwyr Conwy yn greadigol gan eu grymuso i gael lleisio eu barn o ran y gwasanaethau a’r materion sy’n effeithio ar eu bywydau dyddiol.

Roedd y digwyddiadau yn amrywio o ddyddiau hwyl i’r teulu a sinema dawel i fforwm cymunedol cyson gydag amrywiaeth eang o siaradwyr yn ymweld.

“Rwyf wedi mwynhau cyfarfod cynghorwyr a gwleidyddion yn y fforymau – dwi’n meddwl eu bod wedi synnu bod gennym gymaint i’w ddweud!” dywedodd Anne Rothwell, un o breswylwyr Pentre Mawr yn Abergele.

Canmolodd Mr S. (Mitch) Mitchell hefyd y fforymau, gan ddweud bod yr awyrgylch hamddenol yn annog y preswylwyr i gymryd rhan yn y trafodaethau.

Dywedodd Iwan Evans, Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid Cymdeithas Tai Gogledd Cymru:

“Mae Tai Gogledd Cymru yn eithriadol o falch bod y prosiect wedi ennill y wobr bwysig hon. Yn sicr bu’r prosiect yn llwyddiant; bu’n allweddol wrth sicrhau bod tenantiaid anodd eu cyrraedd yn cael llais a mynegi eu barn am weithgareddau a gwasanaethau cyrff cyhoeddus. Mae tenantiaid Tai Gogledd Cymru wedi mwynhau’r llu o weithgareddau ac maent wedi eu gweld yn ddefnyddiol.”

Dywedodd David Lloyd, Cyfarwyddwr TPAS Cymru:

“Mae ein Gwobrau Cyfranogiad blynyddol yn rhoi cyfle i ni gydnabod bod cyfranogiad tenantiaid yn newid gwasanaethau tai a chymunedau er gwell. Mae’r gwobrau yn cynnig ffenestr siop i arfer gorau ar draws Cymru wrth sicrhau bod tenantiaid wrth galon gwasanaethau tai. Mae wedi bod yn braf iawn dathlu llwyddiannau cyfranogiad ac rydym wedi gweld enillwyr sy’n ysbrydoli ac yn ysgogi unwaith eto eleni.”