Bywyd newydd i gae chwarae yn Llandudno

Mae maes chwarae ‘naturiol’ newydd sbon wedi cael ei ddatblygu ar stad Tre Cwm fydd yn annog plant lleol i fod yn greadigol ac i ddefnyddio mwy ar eu dychymyg.

Mae cymdeithasau tai lleol, Tai Gogledd Cymru a Chartrefi Conwy wedi dod at ei gilydd i weithio mewn partneriaeth i ail ddatblygu’r safle ac i greu ardal chwarae newydd gan ddisodli’r hen offer.

Mae Brett Sadler, yn Gyfarwyddwr Cymunedau Cynorthwyol gyda Tai Gogledd Cymru, dywedodd:

Mae hwn wedi bod yn brosiect gwych i weithio arno, ac mae Tai Gogledd Cymru yn falch o fod wedi gallu ymuno gyda Chartrefi Conwy i droi hwn yn realiti. ‘Doedd yr hen gae chwarae prin yn cael ei ddefnyddio – felly’r gobaith yw y bydd y maes newydd yn galluogi plant y stad i ddod at ei gilydd i fod yn greadigol wrthi iddynt fwynhau chwarae yno.”

Mae’r maes chwarae yn Nhre Cwm yn cynnwys tirlunio naturiol, llwybr troed pren, llwybr synhwyraidd a ‘mynydd’ boncyffion. Mae’r holl ardal wedi ei gynllunio i annog plant i chwarae yn yr awyr agored ac i ddefnyddio mwy ar eu dychymyg na chaeau chwarae traddodiadol.

Mae meysydd chwarae naturiol yn dod yn fwy a mwy poblogaidd wrth iddynt gyfuno gwahanol elfennau er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r ardal o’u cwmpas. Mae adnoddau naturiol fel coed a cherrig yn cael eu defnyddio i wella sut mae meysydd chwarae yn edrych, ond hefyd i roi mwy o gyfle i blant ddefnyddio eu dychymyg.