Bywyd newydd i gartrefi yn Rhuthun

Yng nghanol tref Rhuthun, mae rhaglen adnewyddu ar raddfa fawr wedi cael ei chwblhau, i wella rhes o dai oedd wedi cael ei gadael, a bellach maen nhw’n gartrefi newydd o ansawdd da i bobl leol.

Mae’r tai ar Stryd Mwrog, mewn lle amlwg yng Nghanol Tref Rhuthun, ac erbyn hyn wedi cael eu trawsnewid ar ôl i Tai Gogledd Cymru eu cael fel rhan o gynllun Cartrefi Gwag Sir Ddinbych.

Mae tenantiaid newydd wedi cael pob un o’r cartrefi yma erbyn hyn, ac wedi cael y goriadau i ddau dŷ, dau fflat, a dau o’r byngalos newydd sydd wedi cael eu hadeiladu tu cefn i’r tai. Roedd y gwaith yn golygu dymchwel rhai adeiladau atodol ac wedyn bod y contractwr lleol, K&C, yn tynnu popeth allan o’r tai i gyrraedd at yr adeiladwaith sylfaenol cyn dechrau ar y prosiect tymor hir i’w hadfer.

Mae galw yn Rhuthun i ddatblygu cartrefi i bobl leol, ac mae’r cynllun hefyd yn gwella canol y dref ac yn hybu mwy o adfywio ac yn annog pobl i ddod yn ôl i’r dref.

Dyma oedd gan Phil Danson o Tai Gogledd Cymru i’w ddweud:

“Mae’r cynllun yma’n cadw at yr ethos cartrefi gwag. Mae o hefyd yn ateb pob un o’n hamcanion ni o ran creu cartrefi, trawsnewid ardaloedd a defnyddio adeiladau da sydd yma’n barod a’u cael i fyny at safonau ac anghenion modern.

Mae hi’n wych erbyn hyn gweld ein tenantiaid newydd ni’n symud i mewn a dechrau mwynhau bywyd yn eu cartrefi newydd.”