Cadeirydd Grŵp newydd i Tai Gogledd Cymru

Mae Tai Gogledd Cymru wedi cyhoeddi penodiad Tom Murtha fel Cadeirydd newydd ei Bwrdd Grŵp yn ei Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ym mis Medi eleni.

Mae Tom yn olynu Peter Gibson fel ein Cadeirydd, a safodd i lawr eleni ar ôl 9 mlynedd ar y Bwrdd, sef y cyfnod hiraf posib a ganiateir i fod yn aelod o’r Bwrdd.

Helena Kirk, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Hoffem ddiolch i Peter am ei flynyddoedd lawer o wasanaeth fel aelod gwirfoddol o’r Bwrdd dros Tai Gogledd Cymru. Mae Peter wedi gweld llawer o newidiadau dros y blynyddoedd ac wedi bod yn rhan o’r gwaith gwych rydym wedi’i wneud mewn cymunedau lleol.”

Mae Tom Murtha yn dod â phrofiad helaeth iawn gydag ef, gan iddo dreulio dros 40 mlynedd yn y sector tai a gofal. Dechreuodd ei yrfa fel gweithiwr cymunedol yng nghanol dinas Caerlŷr ac ymddeolodd fel Prif Weithredwr Midland Heart, un o sefydliadau tai a gofal mwyaf y DU, yn 2012.

Tom Murtha, Cadeirydd Grŵp newydd yn Tai Gogledd Cymru:

“Rwy’n falch iawn o ymuno â Helena a’i chydweithwyr yn Tai Gogledd Cymru ar yr adeg bwysig hon. Rwyf bob amser wedi edmygu eu gwaith a gwaith y sector tai yng Nghymru sy’n dal i gydnabod gwir werthoedd a phwrpas tai cymdeithasol.”

Helena Kirk, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Rydym yn falch iawn o groesawu Tom fel ein Cadeirydd newydd. Teimlwn ei fod yn gaffaeliad gwych i’r sefydliad a bydd yn allweddol wrth oruchwylio gweithrediad ein Cynllun Corfforaethol newydd a chyfeiriad Tai Gogledd Cymru at y dyfodol.”

Gallwch wybod mwy am Tom ac aelodau eraill Bwrdd Tai Gogledd Cymru yma.