Canlyniadau boddhad wedi cyrraedd!

Diolch i’r 625 o breswylwyr (31%) a gymerodd ran yn ein harolwg Boddhad Tenantiaid a Phreswylwyr rhwng misoedd Ebrill a Mai 2019. Roedd yn fersiwn ysgafnach o’r arolwg arferol – yn fyrrach ac wedi’i anfon at denantiaid anghenion cyffredinol yn unig. Enillodd Mr Ryan o Ewloe Drive raffl fawr i ennill Tabled Samsung Galaxy.

Y Canlyniadau

Mae’r tabl isod yn dangos ein canlyniadau allweddol ac yn eu cymharu â’n canlyniadau ar gyfer tenantiaid anghenion cyffredinol 2 flynedd yn ôl, a’r meincnod (cyfraddau boddhad cyfartalog darparwyr tai cymdeithasol.)

STAR results cy

Mae ein canlyniadau yn dangos lle i wella. Mae boddhad cyffredinol yn aros yr un fath o’i gymharu â 2 flynedd yn ôl ond yn is na’r cyfartaledd, ond ym mhob maes arall mae boddhad wedi gostwng. Mae’r cwymp hwn yn ystadegol arwyddocaol mewn pedwar maes – gwerth am arian rhent, gwaith trwsio ddiwethaf a gwblhawyd, cymdogaeth fel lle i fyw a chynnal a chadw tiroedd. Ym mhob maes rydym yn sgorio’n is na’r cyfartaledd meincnod, gyda gwrando a gweithredu a gwasanaeth cynnal tiroedd bellaf o’r meincnod.

Sut ydym yn bwriadu gwella?

  • Hyfforddiant Gwasanaethau Cwsmeriaid i’r holl staff yn ystod 2019/20.
  • Rhoi mwy o wybodaeth i denantiaid ynghylch taliadau gwasanaeth.
  • Cyflwyno arolygon boddhad newydd ar gyfer ein gwasanaeth cynnal a chadw tiroedd ac ar gyfer cwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Byddwn yn ymateb i adborth negyddol o arolygon, i fynd i’r afael gyda’r mater ar unwaith a dysgu ar gyfer gwella gwasanaethau yn y dyfodol